Skip to content

Cefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle

Dysgwch am gefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle, gan gynnwys y rhwymedigaethau cyfreithiol sydd gan gyflogwyr, arferion gorau a pholisïau gweithle.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gefnogi bwydo ar y fron yn eich gweithle:

Defnyddiwch adnoddau CIW

Gall gweithleoedd ddefnyddio ein hadnoddau bwydo ar y fron yn y gweithle am ddim, gan gynnwys ein pecyn cymorth a’n sgwrs blwch offer. Gallwch ddod o hyd i’r rhain ar dudalen adnoddau cymorth bwydo ar y fron yn y gweithle.

Nod ein Pecyn Cymorth Bwydo ar y Fron yn y Gweithle hwn yw cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu amgylcheddau gwaith cynhwysol, sy’n ystyriol o deuluoedd ac sy’n galluogi gweithwyr i barhau i fwydo ar y fron pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith.

Mae ein bathodyn Cyflogwr sy’n Ystyriol o Fwydo ar y Fron ar gael i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i greu gweithle sy’n ystyriol o fwydo ar y fron ar gyfer gweithwyr

 

Polisïau a llawlyfrau

Dylid amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer bwydo ar y fron yn y gweithle. Dylid cynnwys sut y gall gweithwyr ofyn am drefniadau penodol wrth ddychwelyd i’r gwaith a pharhau i fwydo ar y fron.

Sicrhewch fod eich polisi ar gael i’r holl staff. Gallwch ei ychwanegu at bolisi neu lawlyfr sy’n bodoli eisoes a chynnal adolygiadau rheolaidd.

Os ydych yn fusnes llai, efallai na fydd angen polisi ffurfiol arnoch. Ond mae’n dal yn bwysig trafod cefnogaeth i fwydo ar y fron gyda gweithwyr.

Mae ein Pecyn Cymorth ar Fwydo ar y Fron yn y Gweithle hefyd yn cynnwys siarter bwydo ar y fron. Mae’r ddogfen hon yn rhoi fframwaith clir ar gyfer cefnogi rhieni sy’n
bwydo ar y fron yn y gweithle a gall cyflogwyr ddangos eu hymrwymiad i arferion gorau drwy roi ei safonau ar waith.

Mae ein bathodyn Cyflogwr sy’n Ystyriol o Fwydo ar y Fron ar gael i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i’r siarter bwydo ar y fron.

Cyfathrebu a diwylliant

Mae’n arfer da trafod trefniadau bwydo ar y fron gyda gweithwyr sy’n dychwelyd. Gallwch wneud hyn yn ystod ‘cadw mewn cysylltiad’.

Mae ein Pecyn Cymorth Bwydo ar y Fron yn y Gweithle yn cynnwys gwybodaeth am ddechrau’r sgwrs am fwydo ar y fron yn y gwaith.

Defnyddio sianeli cyfathrebu staff i rannu gwybodaeth a hyrwyddo ymgyrchoedd llesiant yn y gweithle. Gall gwneud hyn eich helpu i hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chynhwysol.

Gall gweithleoedd gefnogi ymgyrchoedd hefyd gan gynnwys Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd.

Dysgu gan sefydliadau eraill

Darganfyddwch sut mae Meithrinfa Fun Foundations a Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi eu staff i fwydo ar y fron yn y gweithle.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17th Awst 2026

Menyw yn bwydo ei babi ar y fron.