
Cefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle
Dysgwch am gefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle, gan gynnwys y rhwymedigaethau cyfreithiol sydd gan gyflogwyr, arferion gorau a pholisïau gweithle.
Rhwymedigaethau cyfreithiol fel cyflogwr
Os yw gweithiwr yn eich hysbysu ei bod yn bwydo ar y fron, rhaid i chi gynnal asesiad risg. Dylech adolygu hyn yn rheolaidd, neu os bydd amgylchiadau’n newid.
Anaml y bydd bwydo ar y fron yn effeithio ar allu gweithiwr i gyflawni ei dyletswyddau. Ond, efallai y bydd angen addasu rhai tasgau, fel y rhai sy’n ymwneud â sylweddau peryglus.
Nid oes hawl statudol i gael amser i ffwrdd ar gyfer bwydo ar y fron, ond gall gwrthod caniatáu hyn fod yn gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw o dan God Ymarfer Deddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig). Mae rhagor o fanylion am rwymedigaethau cyflogwyr i’w gweld yng nghanllawiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
O dan Reoliadau’r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 (Saesneg yn unig), mae’n ofynnol i gyflogwyr ddarparu “cyfleusterau addas” i weithwyr sy’n bwydo ar y fron. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig) yn nodi bod yn rhaid i’r cyfleusterau hyn fod yn lân ac yn breifat, ac y dylai oergell fod ar gael ar gyfer storio llaeth.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19th Mawrth 2025
