Skip to content

Cefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle

Dysgwch am gefnogi bwydo ar y fron yn y gweithle, gan gynnwys y rhwymedigaethau cyfreithiol sydd gan gyflogwyr, arferion gorau a pholisïau gweithle.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gefnogi bwydo ar y fron yn eich gweithle:

Polisïau a llawlyfrau

Dylid amlinellu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer bwydo ar y fron yn y gweithle. Dylid cynnwys sut y gall gweithwyr ofyn am drefniadau penodol wrth ddychwelyd i’r gwaith a pharhau i fwydo ar y fron.

Sicrhewch fod eich polisi ar gael i’r holl staff. Gallwch ei ychwanegu at bolisi neu lawlyfr sy’n bodoli eisoes a chynnal adolygiadau rheolaidd.

Os ydych yn fusnes llai, efallai na fydd angen polisi ffurfiol arnoch. Ond mae’n dal yn bwysig trafod cefnogaeth i fwydo ar y fron gyda gweithwyr. Gallwch ddod o hyd i fwy o gyngor, argymhellion ac astudiaethau achos yn y llyfryn hwn gan ACAS (Saesneg yn unig).

Cyfathrebu a diwylliant

Mae’n arfer da trafod trefniadau bwydo ar y fron gyda gweithwyr sy’n dychwelyd. Gallwch wneud hyn yn ystod ‘cadw mewn cysylltiad’.

Defnyddio sianeli cyfathrebu staff i rannu gwybodaeth a hyrwyddo ymgyrchoedd llesiant yn y gweithle. Gall gwneud hyn eich helpu i hyrwyddo diwylliant cadarnhaol a chynhwysol. Ewch i’n hadran ymgyrchoedd a digwyddiadau i ddarganfod mwy.

Cefnogaeth yn y gweithle

Mae’n debygol y bydd angen i weithwyr sy’n dychwelyd ac sy’n parhau i fwydo ar y fron wasgu llaeth yn y gwaith, fel arfer gyda phwmp. Mae’r arfer gorau yn cynnwys darparu:

  • Seibiannau ychwanegol ar gyfer gwasgu llaeth
  • Ystafell lân, breifat gyda chlo (nid toiled)
  • Oergell ddynodedig ar gyfer storio llaeth

Mewn rhai achosion, efallai y bydd gweithwyr yn gallu bwydo’n uniongyrchol o’r fron yn ystod y diwrnod gwaith yn eu gweithle, eu cartref neu gyfleuster gofal plant. Dylai cyflogwyr ystyried a chefnogi ceisiadau i wneud hyn lle bynnag y bo modd.

Darganfyddwch sut mae Meithrinfa Fun Foundations yn cefnogi eu staff i fwydo ar y fron yn y gweithle.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27th Mawrth 2025

Menyw yn bwydo ei babi ar y fron.