Skip to content

Cyflogwyr gwaith teg

Dysgwch sut y gall blaenoriaethu gwaith teg arwain at weithlu iach sy'n ffynnu ac economi fwy llwyddiannus.

Neidio'r tabl cynnwys

Gwerth bod yn gyflogwr gwaith teg

Mae gwaith yn bwysig i’n hiechyd a’n llesiant. Gall swyddi o ansawdd gwael niweidio ein hiechyd.

Fel cyflogwr, gall defnyddio egwyddorion gwaith teg eich helpu i hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle a chefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol. Gall helpu eich gweithle i fod yn fwy cynhyrchiol a chaniatáu i bawb gyrraedd eu potensial llawn.

Gwyliwch y fideo hwn i ddarganfod mwy am waith teg a’i fanteision:

Buddion i gyflogwyr

  • Gweithlu hapusach ac iachach sy’n fwy cynhyrchiol, ymgysylltiol ac effeithlon
  • Llai o absenoldeb a throsiant gweithwyr
  • Gallu cadw staff yn well, lleihau costau recriwtio a hyfforddi
  • Gwell delwedd brand, gan eich helpu i ddenu’r dalent orau
  • Morâl uwch ymhlith gweithwyr a diwylliant cadarnhaol yn y gweithle

Darganfyddwch fwy am waith teg yn yr adroddiad hwn gan Y Comisiwn Gwaith Teg (yn agor mewn ffenestr newydd).

.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10th Mawrth 2025

Dau berson yn ysgwyd llaw yn y gwaith.