Fel cyflogwyr, dyma rai camau y gallwch eu defnyddio i adeiladu gweithle cryfach, iachach a mwy llwyddiannus a chyfrannu at Gymru decach a gwyrddach.
Deall egwyddorion gwaith teg
- Prif bileri gwaith teg yw gwobrwyo teg, llais gweithwyr, diogelwch, cyfle, hawliau ac amgylchedd cynhwysol, diogel ac iach
- Defnyddiwch y canllaw hwn i waith teg i ddeall beth mae’r egwyddorion yn ei olygu yn ymarferol
Asesu eich arferion presennol yn y gweithle
- Cynnal adolygiad neu arolwg ymhlith gweithwyr i ddarganfod pa mor deg a chynhwysol yw eich gweithle
- Nodi meysydd lle mae angen gwelliannau, yn unol ag egwyddorion gwaith teg
Cryfhau ymgysylltiad a chynrychiolaeth gweithwyr
- Creu ffyrdd i weithwyr rannu eu barn a’u pryderon
- Cefnogi undebau llafur, rhwydweithiau staff, neu fforymau i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu clywed ac yn cymryd rhan mewn penderfyniadau
Sicrhau cyflog teg a sicrwydd swydd
- Darparu cyflog teg sy’n adlewyrchu’r gwaith a wnaed ac sy’n cyd-fynd â safonau’r diwydiant. Darganfod mwy am fanteision dod yn gyflogwr Cyflog Byw.
- Cynnig contractau diogel a chyfyngu’r defnydd o gontractau dim oriau neu gontractau dros dro
Adeiladu gweithle cynhwysol a chefnogol
- Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eich busnes
- Rhoi polisïau ar waith i atal gwahaniaethu, aflonyddu a thriniaeth annheg
Cynnig cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad
- Cynnig cyfleoedd hyfforddi, mentora a dilyniant gyrfa i’r holl weithwyr
- Cefnogi dysgu gydol oes i helpu staff i dyfu eu sgiliau a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd
Hyrwyddo llesiant gweithwyr
- Cefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith gyda threfniadau gweithio hyblyg
- Cynnal mentrau iechyd meddwl a llesiant i greu gweithle iachach. Ymweld â’n tudalen iechyd meddwl i ddarganfod mwy.
Adolygu a gwella’n barhaus
- Cael adborth gan weithwyr yn rheolaidd a gweithredu arno
- Cadw i fyny ag arferion gorau a newidiadau polisi sy’n gysylltiedig â gwaith teg
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27th Mawrth 2025