
Cymorth i weithwyr gyda diabetes
Dysgwch am y risgiau, y symptomau, a’r goblygiadau o gael diabetes a sut y gallwch feithrin gweithle sy’n gefnogol i weithwyr sy'n byw gyda'r cyflwr.
Symptomau a’r effaith ar weithleoedd
Dyma rai o symptomau cyffredin diabetes:
- Syched ac angen pasio dŵr yn aml
- Blinder parhaus
- Golwg yn aneglur
- Clwyfau’n araf i wella
Os caiff diabetes ei reoli’n wael, gall arwain at broblemau yn y gweithle fel hypoglycaemia (siwgr gwaed isel), sy’n achosi pendro a dryswch, neu hyperglycaemia (siwgr gwaed uchel), a all arwain at broblemau iechyd hirdymor.
Gall gweithwyr â diabetes fod yn absennol o’r gwaith yn amlach (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd) o ganlyniad i apwyntiadau meddygol a’r angen i reoli’r cyflwr. Gall symptomau fel blinder hefyd effeithio ar berfformiad a chynhyrchiant yn y gwaith.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20th Mawrth 2025
