Skip to content

Cymorth i weithwyr gyda diabetes

Dysgwch am y risgiau, y symptomau, a’r goblygiadau o gael diabetes a sut y gallwch feithrin gweithle sy’n gefnogol i weithwyr sy'n byw gyda'r cyflwr.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Gwneud addasiadau rhesymol

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig), gall diabetes gael ei gyfrif yn anabledd, sy’n golygu bod rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol, fel cynnig: 

  • Oriau gweithio hyblyg ar gyfer mynd i apwyntiadau meddygol
  • Mannau dynodedig ar gyfer cymryd inswlin ac i fonitro lefelau siwgr y gwaed
  • Seibiannau rheolaidd ar gyfer prydau bwyd er mwyn cynnal lefelau siwgr gwaed sefydlog

Mae Diabetes UK (Saesneg yn unig) yn cynnig canllaw manwl i gyflogwyr ar addasiadau yn y gweithle. 

Annog arferion iach yn y gweithle
  • Trefnu cyfarfodydd cerdded, teithiau cerdded amser cinio, neu ddarparu mynediad i’r gampfa
  • Annog gwell dewisiadau bwyd drwy sicrhau bod byrbrydau maethlon ar gael a thrwy hyrwyddo prydau cytbwys
  • Gall straen beri i symptomau diabetes waethygu. Gall Rhaglenni Cymorth i Weithwyr (EAPs) helpu gweithwyr i reoli straen a lles emosiynol. 
  •  Mae Pwysau Iach Byw’n Iach yn cynnig cyngor ac adnoddau wedi’u teilwra ar sut i gynnal pwysau iach
Sgrinio cynnar a chefnogaeth
  • Annog gwasanaethau iechyd galwedigaethol i sgrinio gweithwyr sydd mewn perygl
  • Awgrymu bod gweithwyr yn defnyddio teclyn ar-lein Diabetes UK(Saesneg yn unig) i helpu i asesu eu risg o ddiabetes Math 2
Codi ymwybyddiaeth ac annog cyfathrebu agored
  • Cynnal sesiynau addysgol ar reoli diabetes
  • Hyfforddi rheolwyr i adnabod yr heriau sy’n gysylltiedig â diabetes ac i ymateb yn gefnogol
  • Annog diwylliant heb stigma lle mae gweithwyr yn teimlo’n gyfforddus i drafod eu hanghenion

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31st Mawrth 2025

Person yn eistedd wrth ddesg gyda'i gydweithiwr, maen nhw’n gwenu ac yn gwneud nodiadau ar ddarn o bapur.