Skip to content

Cymorth ynglŷn â hunanladdiad

Dysgwch sut i gefnogi gweithwyr y mae hunanladdiad yn effeithio arnyn nhw wrth hyrwyddo llesiant meddyliol yn y gweithle.

Neidio'r tabl cynnwys

Pwysigrwydd cefnogaeth i weithwyr

Gall marwolaeth rhywun rydych chi’n ei adnabod drwy hunanladdiad effeithio’n fawr ar iechyd a llesiant. Gall achosi tristwch, straen a phryder. Efallai y bydd rhai pobl hyd yn oed yn meddwl am hunanladdiad eu hunain.

Gall pobl sy’n cael eu heffeithio gan hunanladdiad fod wedi cael profedigaeth (teulu agos, ffrindiau), wedi dod i gysylltiad â hunanladdiad (cydweithwyr, tystion) neu gall hunanladdiad fod wedi cael effaith arnyn nhw (aelodau’r gymuned).

Heb gefnogaeth, gall gweithwyr gael trafferth gyda’u gwaith neu deimlo’n ynysig.

Mae cael cynllun clir ar waith yn helpu gweithleoedd i:

  • Gefnogi llesiant gweithwyr
  • Cadw pobl mewn gwaith
  • Magu gwytnwch
  • Helpu gweithwyr pan fydd fwyaf o angen help arnyn nhw
Gwybodaeth:

Os ydych chi’n poeni am rywun neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi ac angen rhywun i siarad â nhw, ffoniwch y Samariaid ar unrhyw adeg, o unrhyw ffôn AM DDIM: 116 123

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17th Mawrth 2025

Llun agos o ddau berson yn sefyll mewn swyddfa, un yn dal dwylo’r llall o'u blaen.