Skip to content

Cymorth ynglŷn â hunanladdiad

Dysgwch sut i gefnogi gweithwyr y mae hunanladdiad yn effeithio arnyn nhw wrth hyrwyddo llesiant meddyliol yn y gweithle.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Gall cyflogwyr gymryd camau ymarferol i greu gweithle diogel a chefnogol ar ôl hunanladdiad:

  • Deall y gall pobl fod wedi cael profedigaeth (teulu agos, ffrindiau), wedi dod i gysylltiad (cydweithwyr, tystion) neu wedi’u heffeithio (aelodau’r gymuned)
  • Cynnig trefniadau gweithio hyblyg i weithwyr sy’n galaru
  • Darparu cymorth cynnar, ymarferol fel cyfeiriadau clir at wasanaethau proffesiynol. Mae’r Samariaid (Saesneg yn unig) yn darparu cefnogaeth emosiynol 24/7 i’r rhai sydd mewn trallod. Gallwch gael cefnogaeth emosiynol yn Gymraeg trwy ffonio Llinell Gymraeg y Samariaid ar 0808 164 0123 (Ar agor bob dydd 7pm-11pm).
  • Mae’r Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol (NALS) (yn agor mewn ffenestr newydd) yn wasanaeth cyfrinachol am ddim i unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan hunanladdiad. Mae’n darparu gwasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim ac mae ar gael i unigolion a theuluoedd o bob oed sy’n byw yng Nghymru. Gellir ei ddarparu dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo.
  • Sylweddol y gall fod angen cymorth ar bobl ar wahanol adegau, nid yn syth ar ôl y digwyddiad yn unig
  • Annog sgyrsiau agored am iechyd meddwl mewn ffordd anfeirniadol a thosturiol
  • Hyrwyddo iechyd meddwl da a lleihau straen yn y gweithle
  • Cynnig sesiynau sgwrsio dro ar ôl tro i sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi dros amser
  • Cymryd rhan mewn ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd meddwl

Er mwyn gwella ymwybyddiaeth a hyfforddiant, gall cyflogwyr annog staff i gymryd rhan mewn Hyfforddiant Sgiliau Ymyrraeth Hunanladdiad Cymhwysol (ASIST) (Saesneg yn unig), sy’n helpu unigolion i gefnogi’r rhai sydd mewn perygl.

Mae adnoddau eraill, fel canllawiau Llywodraeth Cymru ar ymateb i bobl sydd mewn profedigaeth, wedi bod mewn cysylltiad neu wedi’u heffeithio gan hunanladdiad, Help is at Hand Cymru (Saesneg yn unig) a Mental Health UK (Saesneg yn unig) yn darparu cyngor ac adnoddau i gefnogi gweithwyr a rheolwyr i ymdrin â’r sefyllfaoedd sensitif hyn.

Gwybodaeth:

Os ydych chi’n poeni am rywun neu’n ei chael hi’n anodd ymdopi ac angen rhywun i siarad â nhw, ffoniwch y Samariaid ar unrhyw adeg, o unrhyw ffôn AM DDIM: 116 123

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1st Ebrill 2025

Llun agos o ddau berson yn sefyll mewn swyddfa, un yn dal dwylo’r llall o'u blaen.