
Cysylltiad cymdeithasol yn y gwaith
Darganfyddwch sut y gall cyflogwyr hyrwyddo cysylltiad cymdeithasol a pham ei fod yn bwysig ar gyfer iechyd a lles cyffredinol gweithwyr.
Effaith gwaith ar gysylltiad cymdeithasol
Mae ffyrdd modern o weithio yn gwneud cysylltiad cymdeithasol yn y gwaith yn bwysicach nag erioed. Mae timau rhithwir a gweithio hyblyg, boed yn llawn amser neu’n achlysurol, yn golygu llai o ryngweithio wyneb yn wyneb a mwy o ddibyniaeth ar dechnoleg. Yn ogystal, mae pobl yn newid swyddi yn amlach nag erioed o’r blaen ac mae gwaith rhan-amser yn fwy cyffredin.
Gall datgysylltiad cymdeithasol ac unigrwydd ddatblygu yn y gweithle mewn sawl ffordd. Gall teimladau presennol o unigrwydd gael eu cario i’r gweithle, tra gall rhai nodweddion swydd sbarduno neu waethygu datgysylltiad. Gall effaith gwaith ei hun, fel straen, oriau hir, neu ddiwylliant gwenwynig, hefyd ymledu i’n bywydau personol ac arwain at ynysu pellach.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Gorffennaf 2025
