
Diogelwch yn yr haul i weithwyr awyr agored
Syniadau hanfodol amddiffyn rhag yr haul, cyfrifoldebau cyflogwyr ac arferion gorau ar gyfer gweithwyr awyr agored.
Buddion gweithle sy’n herio’r haul
Mae diogelwch yn yr haul yn ystyriaeth bwysig os oes gennych chi weithwyr sy’n gweithio yn yr awyr agored.
Trwy fod yn rhagweithiol, gallwch sicrhau iechyd, diogelwch a llesiant gweithwyr awyr agored, lleihau risgiau iechyd a hyrwyddo amgylchedd gwaith mwy diogel.
Mae buddion i gyflogwyr yn cynnwys:
- Gostyngiad mewn absenoldebau oherwydd salwch sy’n gysylltiedig â’r haul
- Cynnydd mewn cynhyrchiant wrth i weithwyr iach allu canolbwyntio a gweithio’n effeithlon
- Mae diwylliant diogelwch cryf yn dangos bod cyflogwyr yn poeni am lesiant eu gweithwyr
- Cydymffurfio â chyfrifoldebau iechyd a diogelwch (Saesneg yn unig) ar gyfer gweithwyr awyr agored
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025