Skip to content

Diogelwch yn yr haul i weithwyr awyr agored 

Syniadau hanfodol amddiffyn rhag yr haul, cyfrifoldebau cyflogwyr ac arferion gorau ar gyfer gweithwyr awyr agored.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i leihau’r risg i’ch gweithwyr sy’n gweithio yn yr awyr agored.

Polisïau a chyfathrebu yn y gweithle

Rhoi polisi diogelwch yn yr haul ar waith gyda chanllawiau clir ar fesurau amddiffyn. Cynnig sesiynau hyfforddi i weithwyr a rheolwyr.

Addysgu’r gweithwyr am ddiogelwch yn yr haul. Rhannu posteri, canllawiau a negeseuon atgoffa digidol am bwysigrwydd amddiffyn rhag yr haul a risgiau amlygiad i belydrau uwchfioled. Mae gan Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain bosteri a thaflenni y gellir eu lawrlwytho (Saesneg yn unig).

Asesiadau risg

Cynnwys diogelwch yn yr haul wrth gynnal asesiadau risg ar gyfer gweithwyr a fydd yn gweithio yn yr awyr agored.

Cynnwys ffactorau lliniaru i leihau’r risg o salwch neu anaf yn sgil amlygiad i’r haul trwy ddarparu cyfarpar diogelu ac annog ymddygiad iach yn y gwaith.

Darparu cyfarpar diogelu

Sicrhau bod amddiffyniad SPF, fel eli haul am ddim, ar gael i bawb mewn ardaloedd cymunedol. Gallech hefyd roi eli haul personol i weithwyr awyr agored.

Cynnig eitemau i amddiffyn gweithwyr rhag yr haul fel hetiau, sbectol haul a dillad llewys hir ysgafn.

Annog gweithwyr awyr agored i ddefnyddio cysgod naturiol neu artiffisial lle bo hynny’n bosibl.

Annog ymddygiad iach yn y gwaith

Hyrwyddo pwysigrwydd hydradu ac atgoffa gweithwyr i yfed digon o hylifau, gan fod amlygiad i’r haul yn cynyddu’r risg o ddadhydradu.

Annog gweithwyr i edrych am unrhyw newidiadau i’r croen. Eu cyfeirio nhw at weithwyr iechyd proffesiynol neu eu cynghori i ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025