Skip to content

Niwroamrywiaeth yn y gweithle

Dysgwch am niwroamrywiaeth a sut y gallwch chi helpu'ch gweithwyr niwrowahanol i ffynnu.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, gallwch gefnogi niwroamrywiaeth yn y gweithle trwy:

Denu talent niwrowahanol

Gall cyflogwyr gymryd camau i ddenu gweithwyr niwrowahanol drwy sicrhau bod disgrifiadau swydd yn glir a bod prosesau recriwtio yn hygyrch.

Gall darparu addasiadau ar gyfer cyfweliad, fel amser ychwanegol neu gwestiynau ymlaen llaw, hefyd wneud gwahaniaeth mawr.

Mae cynnig disgwyliadau a chyfarwyddiadau clir ar gyfer cyfweliadau yn helpu i greu amgylchedd croesawgar i ymgeiswyr niwrowahanol.

Canllawiau ychwanegol:

Cefnogi a chadw staff

Mae creu gweithle cynhwysol yn gofyn am gymorth parhaus i weithwyr niwrowahanol.

Mae cyflogwyr yn gallu:

  • Dod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd
  • Darparu hyfforddiant i reolwyr ar niwroamrywiaeth
  • Codi ymwybyddiaeth ymysg staff
  • Cynnig addasiadau yn y gweithle fel gweithio hyblyg, technoleg gynorthwyol, a mannau tawel.

Mae’r offer defnyddiol yn cynnwys:

 

Annog ymddygiad ystyriol yn y gweithle

Gall cyflogwyr feithrin amgylchedd mwy cynhwysol drwy weithredu newidiadau ystyriol syml, fel:

  • Cynnig mannau tawel a chlustffonau canslo sŵn
  • Caniatáu seibiannau yn ystod cyfarfodydd hir
  • Llunio negeseuon e-bost cryno a dim ond copïo mewn derbynwyr perthnasol er mwyn osgoi llethu gweithwyr â gwybodaeth ddiangen.
Adeiladu rhwydwaith cymorth

Gall paru gweithwyr niwrowahanol â ‘chyfeillion’ yn y gweithle eu cynorthwyo wrth drosglwyddo i rôl newydd.

Gall sefydliadau mwy hefyd elwa o sefydlu rhwydweithiau staff sy’n hyrwyddo cynwysoldeb ac yn cynnig cefnogaeth gan gymheiriaid.

Am arweiniad ar sefydlu rhwydweithiau staff, ewch i CIPD (Saesneg yn unig).

 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 2nd Ebrill 2025