
Rheoli absenoldeb salwch
Dysgwch sut i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol, cefnogi gweithwyr, a lleihau aflonyddwch i’r busnes.
Pwysigrwydd rheoli absenoldeb salwch
Cymru sydd â’r gyfradd uchaf o absenoldeb yn y DU. Mae hyn yn golygu bod mwy o ddiwrnodau gwaith yn cael eu colli oherwydd salwch neu anaf yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o’r DU.
Fel cyflogwr, dylech ddefnyddio arferion rheoli salwch effeithiol yn eich gweithle. Bydd hyn yn eich helpu i greu gweithle iachach, mwy cynhyrchiol sy’n cydymffurfio’n gyfreithiol.
Gall rheoli absenoldeb salwch yn effeithiol arwain at lawer o fuddion.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Arbedion cost
- Gwella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd
- Hybu llesiant gweithwyr
- Gwell enw da
- Amgylchedd gwaith cadarnhaol
Trwy sefydlu prosesau clir i gadw golwg ar bresenoldeb a delio ag unrhyw faterion, gallwch helpu’ch gweithwyr a lleihau nifer yr absenoldebau yn eich gweithle.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025
