
Rheoli absenoldeb salwch
Dysgwch sut i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol, cefnogi gweithwyr, a lleihau aflonyddwch i’r busnes.
Achosion absenoldeb salwch hirdymor
Mae absenoldeb salwch hirdymor yn golygu absenoldeb sy’n fwy na phedair wythnos.
Yn ôl adroddiad gan CIPD yn 2023 (Saesneg yn unig),mae achosion cyffredin yn cynnwys:
- Problemau iechyd meddwl
- Cyflyrau cyhyrysgerbydol
- Cyflyrau meddygol acíwt (e.e. canser, strôc)
- Absenoldebau sy’n gysylltiedig ag anabledd
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (Saesneg yn unig), efallai y bydd angen absenoldeb anabledd ar weithwyr ag amhariadau hirdymor ar gyfer apwyntiadau neu driniaeth feddygol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 2nd Ebrill 2025
