Skip to content

Rheoli absenoldeb salwch

Dysgwch sut i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol, cefnogi gweithwyr, a lleihau aflonyddwch i’r busnes.

Neidio'r tabl cynnwys

Helpu gweithwyr i ddychwelyd i’r gwaith

Mae proses dychwelyd i’r gwaith lyfn yn sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi helpu i wneud hyn yn bosibl:

Trafod cynlluniau dychwelyd yn gynnar

Cwrdd â’r gweithiwr (Saesneg yn unig) cyn iddyn nhw ddychwelyd i fynd i’r afael â phryderon a chytuno ar drefniant dychwelyd yn raddol os oes angen.

Rhoi gwybodaeth glir am y broses dychwelyd i’r gwaith a beth i’w ddisgwyl. Sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r gefnogaeth a’r adnoddau sydd ar gael.

Gwneud newidiadau i’w gwaith neu fan gwaith

Addasu dyletswyddau, oriau gwaith neu’r man gwaith yn seiliedig ar argymhellion meddygol (nodir hyn fel rheol yn nodyn ffitrwydd gweithiwr (dolen Saesneg yn unig)).

Gellir defnyddio’r ffurflen Pasbort Addasiad Iechyd hefyd i nodi pa gymorth a newidiadau y gallai fod eu hangen wrth weithio neu wrth symud i mewn i’r gwaith.

Os oes angen cymorth ariannol arnoch i wneud addasiadau yn y gweithle, efallai y gallwch gael grant gan y rhaglen Mynediad at Waith a ariennir gan y llywodraeth.

Rhoi digon o amser i’r ddau barti baratoi a rhoi’r addasiadau ar waith.

Creu cynllun i hwyluso dychweliad llyfn

Datblygu cynllun manwl a hyblyg i ddychwelyd i’r gwaith yn raddol ar gyfer gweithwyr sy’n dychwelyd ar ôl absenoldeb hirdymor. Cynyddu’r llwyth gwaith a’r cyfrifoldebau’n raddol er mwyn hwyluso’r cyfnod trosglwyddo.

Adolygu ac addaswch y cynllun dychwelyd yn raddol yn rheolaidd yn seiliedig ar adborth a chynnydd y gweithiwr.

Darparu cefnogaeth barhaus

Mae’n bwysig lleihau unrhyw bryder a magu hyder gweithwyr sy’n dychwelyd i’r gwaith:

  • Dylid cynnig sicrwydd a chefnogaeth drwy gael sgyrsiau rheolaidd a chynnal llinellau cyfathrebu agored
  • Dylid annog y gweithwyr i leisio unrhyw bryderon ar unrhyw adeg a chydweithiwch â nhw i ddod o hyd i atebion
Adolygu ac addasu

Trefnu cyfarfodydd dilynol rheolaidd i adolygu cynnydd y gweithiwr a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon newydd neu barhaus.

Cynnal amgylchedd gwaith cefnogol sy’n hyrwyddo llesiant a chynhyrchiant gweithwyr sy’n dychwelyd.

Monitro effeithiolrwydd yr addasiadau a gwneud newidiadau yn ôl yr angen.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 2nd Ebrill 2025

Dau gydweithiwr yn eistedd wrth fwrdd i gael cyfarfod, mae un yn gwneud gwaith papur ar glipfwrdd.