Skip to content

Rheoli absenoldeb salwch

Dysgwch sut i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol, cefnogi gweithwyr, a lleihau aflonyddwch i’r busnes.

Neidio'r tabl cynnwys

Hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gweithle

Fel cyflogwr, mae gennych rôl allweddol wrth annog gweithwyr i ofalu am eu hiechyd meddwl a chorfforol.

Mae’r CIPD (Saesneg yn unig) yn argymell gweithredu strategaeth iechyd a llesiant i ddangos eich ymrwymiad i gefnogi iechyd gweithwyr.

Gallai eich strategaeth gynnwys:

  • Cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol a diwrnodau ymwybyddiaeth. Gallwch ddefnyddio’r cyfleoedd hyn i rannu gwybodaeth am bynciau iechyd penodol a dangos cefnogaeth gan uwch arweinyddiaeth
  • Annog trafodaethau agored a gonest am iechyd meddwl a chorfforol
  • Cynnig trefniadau gweithio hyblyg

Darllenwch ein cyngor ar helpu eich gweithwyr i aros yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 2nd Ebrill 2025

Dau gydweithiwr yn eistedd wrth fwrdd i gael cyfarfod, mae un yn gwneud gwaith papur ar glipfwrdd.