Skip to content

Rheoli absenoldeb salwch

Dysgwch sut i reoli absenoldeb salwch yn effeithiol, cefnogi gweithwyr, a lleihau aflonyddwch i’r busnes.

Neidio'r tabl cynnwys

Sut i reoli absenoldeb salwch

Fel cyflogwr, gallwch ddefnyddio’r strategaethau hyn ar gyfer rheoli absenoldeb salwch yn eich gweithle:

Rhoi polisi ar waith

Dylech sicrhau bod eich polisi absenoldeb salwch (Saesneg yn unig) yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer adrodd, dogfennaeth a hawliau (y buddion a’r hawliau y mae gweithwyr yn gymwys i’w derbyn pan na allan nhw weithio oherwydd salwch neu anaf).

Rhaid iddo gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol fel Deddf Cydraddoldeb 2010 a darpariaethau ar gyfer tâl salwch statudol.

Dylid rheoli absenoldebau sy’n gysylltiedig ag anabledd ar wahân.

Mae gan Busnes Cymru wybodaeth, arweiniad a chymorth ar reoli absenoldeb salwch, gan gynnwys rhwymedigaethau cyfreithiol ac arferion gorau. Mae hefyd yn cynnig adnoddau iechyd a llesiant.

Cyfathrebu’r polisi

Dylai gweithwyr ddeall y polisi o’r cychwyn cyntaf, yn ddelfrydol fel rhan o’u rhaglen gynefino.

Mae defnyddio dull teg a chyson yn atal pryderon ynghylch gwahaniaethu.

Cefnogi rheolwyr llinell

Mae’n bwysig deall yr effaith drom y gall rheoli absenoldeb salwch hirdymor ei chael ar reolwyr llinell.

Mae cefnogaeth yn bwysig i reolwyr llinell fel y gallan nhw reoli absenoldeb salwch yn effeithiol yn y gweithle.

Bydd angen hyfforddiant ar reolwyr ar adnabod problemau iechyd a thrin absenoldebau yn empathetig.

Dylech sicrhau bod mynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol a rhwydweithiau cymorth ar gael.

Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn rhoi mynediad at wasanaethau therapi galwedigaethol, ffisiotherapi a therapi seicolegol wedi’u teilwra.

Hyrwyddo amgylchedd gwaith cefnogol

Annog sgyrsiau agored am iechyd.

Dylech gyfeirio gweithwyr at adnoddau a gwasanaethau fel SilverCloud (Saesneg yn unig), gwasanaethau Cymorth yn y Gwaith, rhaglenni cymorth i weithwyr neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Monitro absenoldebau

Cadw golwg ar absenoldebau i adnabod patrymau a chynnig cefnogaeth amserol.

Dylech sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Diogelu Data 2018 wrth ymdrin â data iechyd gweithwyr.

Defnyddio’r data i osod a chyflawni targedau ar gyfer lleihau absenoldebau.

Dylai’r targedau hyn fod yn seiliedig ar ymdrech ar y cyd i ddeall a lliniaru’r rhesymau dros absenoldebau.

Darparu cefnogaeth gynnar

Cadw mewn cysylltiad â gweithwyr ar absenoldeb hirdymor a chynigiwch gymorth drwy becynnau cymorth y GIG neu wasanaethau iechyd galwedigaethol.

Gall rheolwyr y GIG ddefnyddio’r pecyn cymorth absenoldeb salwch (Saesneg yn unig), sy’n cynnig arweiniad ar gael sgyrsiau cefnogol ynghylch absenoldeb salwch.

Cefnogi gweithwyr ag anableddau neu gyflyrau hirdymor

Mae canllawiau ar gael gan sefydliadau fel:

Mae’r Business Disability Forum yn cynnig ymgynghoriaeth, hyfforddiant ac adnoddau (Saesneg yn unig) i helpu sefydliadau i ddod yn fwy cynhwysol a chefnogol i weithwyr anabl.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn amlinellu egwyddorion i gefnogi gweithwyr anabl a gweithwyr sydd â chyflyrau iechyd hirdymor (Saesneg yn unig).

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig canllawiau i gyflogwyr a rheolwyr i gefnogi pobl anabl a’r rhai â chyflyrau iechyd cronig yn well.

Darllenwch ein cyngor ar sut i gefnogi absenoldebau sy’n gysylltiedig ag anabledd.

Cynllunio Dychwelyd i’r Gwaith ar gyfer Gweithwyr

Trefnu cyfarfodydd cyn i weithiwr ddychwelyd i drafod eu hanghenion.

Rhowch unrhyw addasiadau rhesymol ar waith, fel oriau hyblyg neu ddyletswyddau wedi’u haddasu, er mwyn hwyluso’u cyfnod trosglwyddo.

Adolygu a gwella polisïau’n rheolaidd

Dylid werthuso a mireinio strategaethau rheoli absenoldeb yn barhaus.

Gall adborth gan weithwyr a dadansoddi data helpu i wella prosesau a chynnal cydymffurfiaeth.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27th Mawrth 2025

Dau gydweithiwr yn eistedd wrth fwrdd i gael cyfarfod, mae un yn gwneud gwaith papur ar glipfwrdd.