
Rheoli straen yn y gweithle
Dysgwch fwy am arwyddion straen a'r hyn y gallwch ei wneud i helpu i atal a rheoli straen yn y gwaith.
Adnabod arwyddion straen
Gall deall a sylwi ar arwyddion straen fod yn gam cyntaf pwysig tuag at fynd i’r afael ag ef.
Straen yw sut mae’r corff yn ymateb i heriau neu broblemau. Gall problemau bach luosi ac achosi straen hirdymor.
Gall arwyddion o straen gynnwys:
-
Symptomau corfforol
- Cur pen neu bendro
- Tensiwn neu boen cyhyrol
- Problemau stumog
- Poen yn y frest neu guriad calon cyflymach
- Problemau rhywiol
-
Symptomau meddyliol
- Cael trafferth canolbwyntio
- Cael trafferth gwneud penderfyniadau
- Teimlo fel petaech yn cael eich llethu
- Poeni’n gyson
- Bod yn anghofus
-
Newidiadau mewn ymddygiad
- Bod yn anniddig ac yn bigog
- Cysgu gormod neu ddim digon
- Bwyta gormod neu ddim digon
- Osgoi rhai mannau neu bobl
- Yfed neu smygu mwy
Os na chaiff straen ei reoli, gall arwain at broblemau iechyd difrifol, gan gynnwys gorbryder, iselder ysbryd, a gorflinder.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Mawrth 2025
