Skip to content

Rheoli straen yn y gweithle

Dysgwch fwy am arwyddion straen a'r hyn y gallwch ei wneud i helpu i atal a rheoli straen yn y gwaith.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Nid yw mynd i’r afael â straen bob amser yn gofyn am newidiadau mawr a gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.

Dyma rai syniadau y gallwch chi eu mabwysiadu yn eich gweithle:

Creu arferion cefnogol mewn cysylltiad ag absenoldeb salwch

Creu polisi clir a chefnogol ar gyfer gweithwyr sy’n delio â salwch.

Gall cyfweliadau dychwelyd i’r gwaith, dychweliadau graddol ac addasiadau eraill leihau pryder neu straen gweithwyr pan fyddan nhw’n dychwelyd i’r gwaith.

Lawrlwythwch dempled di-dâl i’ch helpu i ddatblygu polisi salwch.

Hyfforddi rheolwyr i adnabod straen

Mae rheolwyr yn allweddol i adnabod a rheoli straen yn y gweithle.

Dylid eu hyfforddi i sylwi ar arwyddion fel newidiadau mewn ymddygiad neu gynhyrchiant.

Mae rhoi’r sgiliau i reolwyr helpu staff yn gallu atal straen rhag gwaethygu.

Mae Cyflogwyr GIG Cymru yn cynnig arweiniad ymarferol (Saesneg yn unig) i helpu sefydliadau iechyd i weithio gydag undebau llafur a chynrychiolwyr gweithwyr.

Mae’r cymorth hwn yn canolbwyntio ar adnabod arwyddion straen a chymryd camau i atal a lleihau straen yn y gweithle.

Annog arferion iach

Gall arferion iach leihau straen a hybu iechyd meddwl.

Anogwch newidiadau syml, fel cyfarfodydd cerdded neu deithiau cerdded amser cinio, i helpu gweithwyr i gadw’n heini.

Mae’r tudalennau isod yn darparu mwy o wybodaeth:

  • Bod yn egnïol
  • Maetheg
  • Alcohol
  • Cwsg
Creu diwylliant cadarnhaol yn y gweithle

Meithrin diwylliant cadarnhaol yn y gweithle, lle mae gwaith tîm, parch a gwerthfawrogiad yn cael eu hannog.

Adnabod a gwobrwyo gwaith caled, dathlu llwyddiannau ac annog cydweithio tîm i greu amgylchedd cefnogol.

Darparu disgwyliadau a rolau swydd clir

Gwneud yn siŵr bod gweithwyr yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau a’r hyn a ddisgwylir ganddyn nhw.

Defnyddio adborth rheolaidd ac adolygiadau perfformiad i’w cadw ar y trywydd iawn a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Annog cyfathrebu agored

Creu gweithle lle mae gweithwyr yn teimlo’n ddiogel yn rhannu eu pryderon.

Cynnal cyfarfodydd un-i-un rheolaidd i sylwi ar straen yn gynnar a rhoi cyfle i weithwyr siarad yn agored heb ofni cael eu barnu.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnig Pecynnau Cymorth Siarad am Straen (Saesneg yn unig).

Gall y rhain helpu rheolwyr i drafod straen sy’n gysylltiedig â gwaith gyda gweithwyr ac maen nhw’n werthfawr ar gyfer atal a rheoli straen yn y gweithle.

Cynnig cymorth iechyd meddwl

Mae llawer o ffyrdd i gynnig cymorth iechyd meddwl i weithwyr.

Ystyried cynnig rhaglenni cymorth i weithwyr, cwnsela, neu hyfforddiant iechyd meddwl i reolwyr.

Gwneud yn siŵr bod staff yn gwybod am yr adnoddau hyn ac yn teimlo’n gyfforddus yn eu defnyddio.

Hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith

Annog eich gweithwyr i gymryd seibiannau rheolaidd, defnyddio eu gwyliau, ac osgoi gorweithio.

Gall opsiynau hyblyg fel gweithio o bell neu oriau hyblyg helpu i gydbwyso ymrwymiadau personol a lleihau straen.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 27th Mawrth 2025

Grŵp o gydweithwyr gwrywaidd yn sgwrsio a’n chwerthin dros baned mewn swyddfa.