
Ymddygiadau caethiwus yn y gweithle
Dysgwch sut i reoli ymddygiadau caethiwus yn eich gweithle a helpu gweithwyr trwy roi'r sgiliau iddynt fynd i'r afael â phroblemau gyda gofal a hyder.
Gwerth gweithle cefnogol
Mae rheoli ymddygiadau caethiwus yn y gweithle yn hanfodol er mwyn cynnal amgylchedd iach a chynhyrchiol.
Gall dibyniaeth—boed ar sylweddau fel alcohol, nicotin, neu feddyginiaeth, neu ymddygiadau fel gamblo—arwain at absenoldeb, perfformiad is, gwrthdaro yn y gweithle a risgiau diogelwch.
Trwy fynd i’r afael â’r materion hyn yn rhagweithiol, mae cyflogwyr yn creu diwylliant o gefnogaeth yn hytrach na stigma. Mae darparu addysg, polisïau clir a mynediad at gymorth yn annog gweithwyr i geisio cymorth heb ofni cael eu barnu. Mae hyn yn gwella morâl tîm, yn lleihau aflonyddwch ac yn gwella llesiant cyffredinol.
Mae manteision ariannol ar gael hefyd. Mae llai o absenoldeb, llai o ddamweiniau a mwy o ymgysylltiad ymhlith gweithwyr yn cyfrannu at weithlu mwy effeithlon. Mae cefnogi gweithwyr drwy heriau dibyniaeth hefyd yn creu teyrngarwch ac yn lleihau trosiant staff, gan arbed costau recriwtio a hyfforddi.
Mae annog sgyrsiau agored, cynnig Rhaglenni Cymorth i Weithwyr a darparu amgylchedd cefnogol yn helpu gweithwyr i ffynnu. Mae gweithle sy’n blaenoriaethu llesiant o fudd i unigolion a’r sefydliad cyfan.
Canfu astudiaeth gan CIPD (Saesneg yn unig, yn agor mewn ffenestr newydd) yn 2020 fod dros ddwy ran o dair o weithwyr a gafodd gymorth yn parhau i weithio i’r un cyflogwr.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13th Mawrth 2025
