Skip to content

Ymddygiadau caethiwus yn y gweithle

Dysgwch sut i reoli ymddygiadau caethiwus yn eich gweithle a helpu gweithwyr trwy roi'r sgiliau iddynt fynd i'r afael â phroblemau gyda gofal a hyder.

Neidio'r tabl cynnwys

Adnabod arwyddion dibyniaeth yn y gwaith

Gall rhai pobl gael dibyniaeth ond yn dal i weithio’n dda. Efallai y bydd eraill yn cael trafferth gyda’u hemosiynau, iechyd, arian neu berthnasoedd oherwydd eu dibyniaeth.

Mae arwyddion y gallai rhywun fod yn delio â dibyniaeth yn y gwaith yn cynnwys:

Problemau gyda phresenoldeb

Cymryd llawer o amser i ffwrdd heb reswm clir, cyrraedd yn hwyr neu adael yn gynnar yn aml.

Perfformiad gwaith

Gwneud mwy o gamgymeriadau, methu terfynau amser, ei chael hi’n anodd canolbwyntio neu’n gwneud llai.

Newidiadau mewn ymddygiad

Hwyliau’n amrywio, anniddigrwydd, dicter, ymddwyn mewn modd cyfrinachol neu osgoi cydweithwyr.

Newidiadau mewn ymddangosiad

Edrych yn flêr, hylendid gwael neu newidiadau amlwg o ran pwysau.

Arwyddion corfforol

Llygaid gwaetgoch, lleferydd aneglur, dwylo’n ysgwyd neu anafiadau anesboniadwy.

Mynd i’r toiled yn aml

Mynd i’r toiled yn aml, o bosibl i ddefnyddio sylweddau.

Trafferthion ariannol

Gofyn am fenthyciadau, gofyn am dâl cynnar neu wario arian mewn ffyrdd anarferol.

Cilio’n gymdeithasol

Osgoi digwyddiadau yn ymwneud â’r gwaith a chadw draw oddi wrth gydweithwyr.

Er efallai na fydd un o’r ymddygiadau hyn yn unig yn arwydd o broblem, gallai cyfuniad ohonyn nhw awgrymu bod rhywun yn cael trafferth ac efallai y bydd angen cymorth arnyn nhw.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13th Mawrth 2025

Llun agos o ddau berson yn eistedd ac yn sgwrsio, mae un yn dal llaw’r llall.