Skip to content

Ymddygiadau caethiwus yn y gweithle

Dysgwch sut i reoli ymddygiadau caethiwus yn eich gweithle a helpu gweithwyr trwy roi'r sgiliau iddynt fynd i'r afael â phroblemau gyda gofal a hyder.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Fel cyflogwr, gallwch gefnogi gweithwyr gyda dibyniaeth trwy:

Cychwyn sgwrs breifat a chefnogol

Dylid siarad â gweithiwr am ddibyniaeth mewn ffordd ddiogel a chyfrinachol.

Mae diogelu eu preifatrwydd yn eu helpu i deimlo’n gyfforddus yn chwilio am gymorth heb boeni am wahaniaethu neu golli eu swydd.

Creu diwylliant cefnogol yn y gweithle

Mae’n bwysig trin dibyniaeth fel cyflwr iechyd, nid methiant personol.

Mae diwylliant yn y gweithle sy’n osgoi barn a stigma yn annog gweithwyr i fod yn agored am eu trafferthion a chwilio am gymorth pan fo angen.

Addysgu rheolwyr a gweithwyr

Mae hyfforddi staff i ddeall dibyniaeth yn helpu i greu ymwybyddiaeth a chefnogaeth.

Dylai rheolwyr dderbyn hyfforddiant ychwanegol i adnabod yr arwyddion ac ymateb yn briodol, gan sicrhau bod gweithwyr yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw.

Cael polisïau clir ar waith

Dylai fod gan weithleoedd reolau clir ynghylch camddefnyddio sylweddau ac ymddygiadau caethiwus.

Dylai polisïau hefyd ganiatáu gweithio hyblyg fel y gall gweithwyr fynychu triniaeth neu apwyntiadau meddygol heb i hynny achosi straen ychwanegol.

Lleihau straen yn y gweithle

Gall straen uchel gyfrannu at ddibyniaeth.

Gall gweithleoedd helpu drwy osod llwythi gwaith realistig, hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, a sicrhau nad yw gweithwyr yn teimlo eu bod wedi’u gorlethu.

Cynnig adnoddau a chefnogaeth

Mae darparu mynediad at gwnsela, rhaglenni cymorth i weithwyr a gwasanaethau dibyniaeth lleol yn rhoi’r cymorth sydd ei angen ar weithwyr.

Codi ymwybyddiaeth

Gall hyrwyddo a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd cenedlaethol ymwybyddiaeth o ddibyniaeth helpu i leihau stigma a gwella dealltwriaeth.

Annog dewisiadau iach

Gall hyrwyddo arferion iach, fel yfed cyfrifol, polisïau di-ysmygu, ymarfer corff rheolaidd, a bwyta cytbwys, gefnogi gweithwyr i wneud dewisiadau gwell o ran ffordd o fyw.

Dilyn canllawiau cyfreithiol a moesegol

Mae sicrhau bod polisïau yn y gweithle yn cydymffurfio â’r gyfraith yn helpu i ddiogelu gweithwyr ac yn lleihau’r risg o gamau cyfreithiol neu gosbau am ddiffyg cefnogaeth.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13th Mawrth 2025

Llun agos o ddau berson yn eistedd ac yn sgwrsio, mae un yn dal llaw’r llall.