Skip to content

Ymgysylltu â natur

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Mae llawer o ffyrdd syml y gall cyflogwyr helpu eu timau i deimlo’n fwy cysylltiedig â natur. Gall hyd yn oed newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i iechyd a llesiant.

Os gall rheolwyr ymuno â gweithgareddau a bod yn esiamplau gweladwy, mae gweithwyr yn fwy tebygol o gymryd rhan ynddynt hefyd.

Annog gweithwyr i dreulio amser ym myd natur

Rhowch wybod i weithwyr ei bod hi’n iawn cymryd seibiannau neu gynnal cyfarfodydd wrth gerdded yn yr awyr agored. Awgrymwch y gallent fynd am dro byr, eistedd mewn man gwyrdd, neu gymryd eiliad i sylwi ar y byd naturiol o’u cwmpas. Gallech hefyd gefnogi staff i gymryd rhan mewn prosiectau cadwraeth lleol drwy gynnal diwrnodau gwirfoddoli corfforaethol.

Rhannwch lwybrau cerdded lleol

Helpwch staff i ddod o hyd i deithiau cerdded natur gerllaw. Os nad oes rhai yn yr ardal leol, edrychwch ar greu llwybrau cerdded diogel neu wella mynediad at fannau gwyrdd ger eich gweithle.

Gwnewch y gweithle yn gyfeillgar i natur

Ceisiwch gadw planhigion, blodau a mannau â glaswellt go iawn o amgylch yr adeilad. Osgowch dorri’r glaswellt yn rhy aml a dewch â rhywfaint o wyrddni i mewn hefyd – gall planhigion fywiogi unrhyw le a gwella ansawdd yr aer yn y gwaith. Ceisiwch gynnwys staff mewn diwrnodau plannu a chreu cynefinoedd. Mae grantiau ar gael yng Nghymru ar gyfer creu mannau ar gyfer natur.

Cynnwys natur mewn cynlluniau llesiant

Gwnewch yn siŵr bod eich cynlluniau llesiant yn y gweithle yn sôn am fanteision natur. Gall natur helpu i leihau straen, gwella hwyliau a chefnogi iechyd meddwl.

Dewch yn sefydliad sy’n gysylltiedig â natur

Gwnewch fwy o gysylltiadau â natur yn eich gweithle gyda chanllawiau o’r Nature Connected Organisations Handbook, o Brifysgol Derby. Gallwch hefyd ddathlu digwyddiadau fel Diwrnod y Ddaear neu Wythnos Natur Cymru, a defnyddio rhwydweithiau gwirfoddolwyr lleol a phrosiectau a ariennir gan grantiau i helpu i gyflwyno gweithgareddau sy’n seiliedig ar natur.

Annog teithio llesol

Gall hyrwyddo teithio llesol ar gyfer cymudo i’r gwaith ac yn ôl, neu ar gyfer mynd i gyfarfodydd oddi ar y safle, greu cyfleoedd i weithwyr dreulio amser mewn mannau gwyrdd a bod yn egnïol hefyd.

Cael cefnogaeth gan wasanaethau eraill

Yng Nghymru mae sefydliadau a all eich helpu chi a’ch gweithwyr i gysylltu â natur. Cysylltwch â nhw i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallech chi gymryd rhan yn eich ardal leol:

  • Mae Partneriaethau Natur Lleol Cymru yn gweithio i amddiffyn ac adfer natur ledled Cymru.
  • Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn dwyn ynghyd chwaraewyr allweddol o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i hyrwyddo a monitro bioamrywiaeth a gweithredu ar ecosystemau yng Nghymru.
  • Mae Presgripsiynau Natur yr RSPB yn ffordd greadigol i weithwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig siarad â phobl am natur. Y syniad yw helpu pobl i deimlo’n well trwy dreulio mwy o amser yn yr awyr agored a chysylltu â’r byd naturiol. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn tyfu yng Nghymru.
  • Edrychwch ar grantiau ac adnoddau am ddim ar gyfer creu cynefinoedd a phlannu coed.
  • Mae Hapus yn lle sy’n ymroddedig i les meddyliol. Natur yw un o’u llwybrau tuag at lesiant meddyliol.

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer cylchlythyr Cymru Iach ar Waith i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am awgrymiadau a chymorth.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 9th Gorffennaf 2025