Skip to content

Teithio llesol, Iach a chynaliadwy

Darganfyddwch sut mae annog teithio egnïol yn cefnogi gweithwyr iachach a mwy cynhyrchiol ac yn lleihau effaith amgylcheddol eich sefydliad.

Neidio'r tabl cynnwys

Deall rhwystrau i deithio llesol

Er bod y defnydd o geir wedi cynyddu’n sylweddol dros y degawdau diwethaf, mae llawer o bobl yn agored i newid sut maen nhw’n teithio, yn enwedig pan fydd opsiynau iachach, mwy llesol yn cael eu gwneud yn haws ac yn fwy deniadol.

Gall rhai gweithwyr wynebu rhwystrau canfyddedig neu ymarferol rhag cerdded, beicio neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Fodd bynnag, mae yna lawer o ffyrdd y gall cyflogwyr helpu i wneud y dewisiadau teithio iachach hyn yn fwy hygyrch, pleserus a realistig, hyd yn oed mewn lleoliadau mwy gwledig neu sy’n fwy dibynnol ar geir.

Mae’r rhwystrau cyffredin a’r camau cefnogol y gall cyflogwyr eu cymryd yn cynnwys:

Diffyg llwybrau cerdded neu feicio diogel

Gall cyflogwyr dynnu sylw at lwybrau diogel presennol gan ddefnyddio offer fel mapiau cerdded a beicio Sustrans Cymru neu weithio gydag awdurdodau lleol i archwilio gwelliannau.

Mynediad neu ymwybyddiaeth gyfyngedig i drafnidiaeth gyhoeddus

Gall darparu gwybodaeth gyfredol am wasanaethau cyfagos, rhannu amserlenni neu hyrwyddo apiau cynllunio teithiau helpu i gynyddu hyder a defnydd.

Patrymau gweithio anhyblyg

Mae amseroedd dechrau a gorffen hyblyg yn caniatáu i staff archwilio opsiynau trafnidiaeth llesol neu gyhoeddus sy’n gweddu’n well i’w trefniadau dyddiol.

Diffyg cyfleusterau

Gall cyflwyno neu wella mynediad i gawodydd, loceri a lleoedd i storio beiciau’n ddiogel wneud teithio llesol yn fwy ymarferol ac apelgar.

Diwylliant gweithle sy’n canolbwyntio ar deithio mewn car

Gall cyflogwyr arwain trwy esiampl, hyrwyddo pencampwyr teithio a chynnal heriau yn y gweithle i helpu i newid meddylfryd a normaleiddio ffyrdd amgen o gymudo.

Lleoliad y gweithle

Er nad yw bob amser o fewn rheolaeth uniongyrchol, gall cyflogwyr gefnogi staff trwy gydlynu cynlluniau rhannu ceir, hyrwyddo opsiynau parcio a cherdded neu gynnig cymhellion ar gyfer teithio llesol neu ddull cymysg.

Trwy gydnabod yr heriau hyn a chynnig atebion ymarferol, gall gweithleoedd ledled Cymru chwarae rôl bwerus wrth annog arferion teithio mwy llesol, cynhwysol a chynaliadwy.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 14th Awst 2025

Cymudwyr yn dod oddi ar drên mewn gorsaf, mae un ohonyn nhw’n gwthio beic.