Mae’r Safonau’r Siarter Teithio Llesol ar gyfer Cymru yn darparu fframwaith cenedlaethol i helpu sefydliadau yng Nghymru i hyrwyddo teithio sy’n iachach, yn fwy cynaliadwy ac sy’n cynhyrchu llai o garbon.
Trwy gofrestru, gall cyflogwyr gefnogi llesiant staff, lleihau absenoldeb salwch a thorri allyriadau carbon, a bydd gweithwyr yn elwa o fwy o weithgarwch corfforol, llai o straen a gwell iechyd cyffredinol.
Mae’r manteision allweddol yn cynnwys:
- Mwy o hyblygrwydd i ddewis camau gweithredu o restr wedi’i theilwra
- Fframwaith cenedlaethol cyson i symud y tu hwnt i ymrwymiadau presennol
- Dull symlach, cydlynol ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio ar draws nifer o ranbarthau
Mae’r Safonau yn addas ar gyfer sefydliadau sy’n newydd i’r Siarter ac ar gyfer llofnodwyr presennol sy’n dymuno adeiladu ar eu cyflawniadau. Nid ydynt yn newid y gofynion ar gyfer sefydliadau sydd eisoes wedi ymrwymo i Siarter ranbarthol gyfredol neu un a lansiwyd yn ddiweddar.
Archwiliwch y Safonau’r Siarter Teithio Llesol ar gyfer Cymru weld sut y gall eich sefydliad gofrestru ac arwain y ffordd.
Gall sefydliadau hefyd gael mynediad at dempledi polisi ac arolwg teithio staff ar wefan Trafnidiaeth Cymru: