Mae’r Safonau’r Siarter Teithio Llesol ar gyfer Cymru yn darparu fframwaith cenedlaethol i helpu sefydliadau yng Nghymru i hyrwyddo teithio sy’n iachach, yn fwy cynaliadwy ac sy’n cynhyrchu llai o garbon.
Gan adeiladu ar lwyddiant Siarteri rhanbarthol ledled Cymru, mae’r Safonau newydd yn cynnig:
- Camau mwy clir i sefydliadau eu cymryd
- Tair lefel o gyflawniad
- Mwy o hyblygrwydd, yn enwedig i sefydliadau sy’n gweithredu ar draws nifer o safleoedd neu ranbarthau.
Drwy gofrestru, gall cyflogwyr wneud y canlynol:
- Cefnogi llesiant eu staff
- Lleihau absenoldeb salwch
- Lleihau allyriadau carbon
Mae’r Safonau yn addas ar gyfer sefydliadau sy’n newydd i’r Siarter ac ar gyfer llofnodwyr presennol sy’n dymuno adeiladu ar eu cyflawniadau. Nid ydynt yn newid y gofynion ar gyfer sefydliadau sydd eisoes wedi ymrwymo i Siarter ranbarthol gyfredol neu un a lansiwyd yn ddiweddar.
Archwiliwch y Safonau’r Siarter Teithio Llesol ar gyfer Cymru weld sut y gall eich sefydliad gofrestru ac arwain y ffordd.