Rhagfyr 2025
Cyfarchion y Tymor gan Cymru Iach ar Waith
Diolch am eich cefnogaeth eleni.
Rydyn ni wedi mwynhau cwrdd â chyflogwyr mewn digwyddiadau a gweminarau.
Dymunwn Nadolig Llawen ac iach i chi a’ch tîm a dymuniadau gorau ar gyfer y flwyddyn newydd!

Y mis hwn
- Edrych yn ôl ar 2025
- Gweminar deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle
- Lansio Safon Brydeinig 30480 – Atal ac ymyrraeth hunanladdiad mewn gweithleoedd
- Stori am lwyddiant: Meithrin cyflogaeth gynhwysol yn Sight Cymru
- Camau syml i gadw’ch gweithlu’n iach y gaeaf hwn
- Dyddiadau ymgyrch mis Ionawr
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Edrych yn ôl ar 2025
Mae diwedd y flwyddyn yn amser da i edrych yn ôl ar yr hyn rydych chi a’ch tîm wedi’i gyflawni.
Mae ein huchafbwyntiau’n cynnwys:
- Cynnal tair gweminar
- Lansio tri offeryn CIW newydd, am ddim, i wella iechyd a llesiant yn y gweithle
-
Offeryn Arolwg i Gyflogwyr
Mae’n galluogi cyflogwyr i asesu eu dull presennol o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle a chael adborth, awgrymiadau ar gyfer y camau nesaf a chyngor clir i gryfhau eu strategaeth llesiant yn y gweithle.
-
Cymorth gan Gynghorwr Gweithle
Mae’n galluogi cyflogwyr i gael mynediad at sesiynau cymorth rhithwir un-i-un gan Gynghorwyr yn y Gweithle CIW er mwyn iddynt gael syniadau, offer a chynlluniau syml y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith yn eu gweithleoedd.
-
Rhaglen Mentora Cymheiriaid
Mae’n helpu cyflogwyr ledled Cymru i gysylltu a rhannu profiadau o’r byd go iawn, gwybodaeth ymarferol a dulliau sydd wedi’u profi o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle.
Dechrau eich taith llesiant yn 2026? Rhowch gynnig ar ein Pecyn Cychwyn Lles yn y Gweithle – cam cyntaf gwych.
Gweminar deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle

Ymunwch â Cymru Iach ar Waith am weminar ‘Deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle’ sy’n ddiddorol ac yn addysgiadol i ddarganfod sut y gall gweithleoedd ledled Cymru leihau’r risg o wrthdaro.
Bydd y weminar hon yn trafod beth yw gwrthdaro yn y gweithle, pam y gall waethygu a chanlyniadau methu arwyddion rhybudd cynnar. Bydd hefyd yn hyrwyddo camau clir ac ymarferol i greu diwylliant mwy cynhwysol, cefnogi staff a rhoi dulliau effeithiol ar waith i ddatrys gwrthdaro.
Nodwch y dyddiad!
- Dydd Iau 12 Mawrth 2026
- 10:00 – 11:00
Lansio Safon Brydeinig 30480 – Atal ac ymyrraeth hunanladdiad mewn gweithleoedd

Rydym yn falch o dynnu sylw at lansiad Safon Brydeinig 30480 (Saesneg yn unig), safon genedlaethol newydd sy’n cynnig canllawiau clir ac ymarferol i helpu cyflogwyr i atal hunanladdiad a chefnogi llesiant staff.
Mae BS 30480 yn nodi dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer:
- Adnabod risg yn gynnar
- Creu amgylcheddau cefnogol, heb stigma
- Datblygu gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymateb i argyfwng
- Rhoi hyfforddiant priodol i staff a rheolwyr
Mae CIW yn annog cyflogwyr o bob maint i adolygu’r safon ac ystyried sut y gall ei hargymhellion gryfhau arferion llesiant a diogelu presennol.
Am ragor o gyngor, ewch i dudalennau gwe CIW ar gymorth ynglŷn â hunanladdiad.
Stori am lwyddiant: Meithrin cyflogaeth gynhwysol yn Sight Cymru

Mae ffocws Sight Cymru ar gyflogaeth gynhwysol wedi creu gweithle lle gall gweithwyr sydd wedi colli eu golwg lwyddo a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi. Mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn hyderus ac yn gallu rhannu eu syniadau, gan helpu’r sefydliad i wella gwasanaethau i bobl sydd wedi colli eu golwg.
Rhannodd Tosin Adeleke, Swyddog Ymgyrch Ymwybyddiaeth:
“Yn Sight Cymru, rydw i wedi dod o hyd i fwy na chefnogaeth, rydw i wedi cael fy ngrymuso…Nid yn unig y mae fy mhrofiad bywyd o golli golwg yn cael ei ddeall, ond mae wir yn cael ei werthfawrogi.”
Darllenwch y stori lawn ar ein gwefan.
A oes gennych chi enghraifft o iechyd a llesiant yn y gweithle ar waith?
Cymerwch olwg ar straeon llwyddiant eraill ar ein gwefan, dywedwch eich stori wrthym ac ysbrydolwch gyflogwyr eraill ledled Cymru!
Camau syml i gadw’ch gweithlu’n iach y gaeaf hwn

Yn ystod y misoedd oerach, gall afiechydon a feirysau fel annwyd a ffliw, COVID-19, norofeirws a feirws syncytiol anadlol (RSV) ledaenu’n hawdd, gan effeithio ar eich gweithlu a pharhad eich busnes.
Mae ymgyrch barhaus Curo Feirysau’r Gaeaf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog camau syml:
- Golchwch eich dwylo’n rheolaidd am 15-20 eiliad gyda dŵr a sebon.
- Ei ddal. Ei daflu. Ei ddifa. Defnyddiwch hances bapur i ddal peswch neu disian. Taflwch yr hances bapur yn y bin pan fyddwch chi wedi gorffen ac yna golchwch eich dwylo i ladd y germau.
- Gadewch i awyr iach ddod i mewn i helpu i gael gwared ar aer hen sy’n cynnwys gronynnau feirysau.
- Anogwch bobl i weithio gartref os ydyn nhw’n sâl.
- Hyrwyddwch staff cymwys i gael brechiadau rhag y ffliw, COVID-19 ac RSV.
- Mae pecyn cymorth o adnoddau y gellir eu lawrlwytho ar gael i dimau, gan gynnwys posteri, graffigwaith ac asedau cyfryngau cymdeithasol.
Am ragor o gyngor, ewch i dudalennau gwe CIW ar atal a rheoli heintiau.
Dyddiadau ymgyrch mis Ionawr
Dyma rai ymgyrchoedd allweddol y gallai gweithleoedd fod eisiau cymryd rhan ynddynt ym mis Ionawr eleni.
Mis Ymwybyddiaeth Canser Ceg y Groth (Ionawr)
Mae mwy na 3,200 o fenywod yn cael diagnosis o ganser ceg y groth yn y DU bob blwyddyn. Gall cyflogwyr wneud y canlynol:
- Lleihau ofn a stigma ynghylch sgrinio serfigol
- Annog gweithwyr i geisio cymorth meddygol
- Cefnogi llesiant a meithrin diwylliant o ymwybyddiaeth iechyd
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen ymgyrch CIW.
Ionawr COCH (Ionawr)
Mae Ionawr COCH yn annog pobl i symud mwy bob dydd. I fusnesau, mae hyrwyddo gweithgarwch rheolaidd yn helpu gweithwyr i aros yn iach, yn hapus ac yn frwdfrydig.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y gall cyflogwyr gymryd rhan yn Ionawr COCH ar gael ar dudalen ymgyrch CIW.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar amrywiaeth o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth iechyd a llesiant ar ein gwefan.