Gweithwyr ifanc yn y gweithle
Dysgwch sut y gall gweithwyr ifanc (16-24) fod o fudd i weithleoedd, yr heriau maen nhw'n eu hwynebu ac archwiliwch sut y gall cyflogwyr eu cefnogi.
Heriau sy’n wynebu gweithwyr ifanc
Mae llawer o bobl ifanc sy’n dechrau gweithio yn profi heriau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys cyflyrau iechyd, ansicrwydd swyddi a dod i arfer â’r gweithle.
Yn ôl data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), ychydig dros hanner pobl ifanc Cymru sydd mewn gwaith, o’i gymharu â bron i dri o bob pedwar o’r holl oedolion o oedran gweithio.
Mae’r bwlch hwn yn cael ei ddylanwadu gan:
Anawsterau iechyd meddwl
Mae bron i un o bob pedwar o bobl ifanc yn dweud iddynt brofi cyflwr iechyd meddwl fel gorbryder neu iselder. Gall yr heriau hyn effeithio ar hyder, presenoldeb a chyflogaeth hirdymor.
Ansicrwydd swydd, neu swyddi â chyflog isel
Mae ymchwil yn dangos bod oedolion ifanc mewn mwy o berygl o ansicrwydd swyddi. Gall hyn achosi straen, lleihau llesiant a’i gwneud hi’n anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol.
Prinder cyfleoedd i ddatblygu
Os na all gweithwyr ifanc weld ffordd glir o symud ymlaen, efallai y byddant yn colli cymhelliant ac yn gadael eu rôl.
Addasu i normau’r gweithle
Efallai nad oes gan bobl ifanc brofiad o ddisgwyliadau’r gweithle. Efallai y byddant yn cael trafferth gyda chyfathrebu proffesiynol a rheoli eu hunain.
Gall heriau cynnar, fel anawsterau iechyd meddwl ac ansicrwydd rôl, waethygu yn y gweithle. Mae straen sy’n gysylltiedig â gwaith, pryder a llesiant gwael yn rhesymau cyffredin pam mae gweithwyr iau yn cymryd amser i ffwrdd yn sâl.
Ewch i’n tudalen am reoli absenoldeb salwch i gael rhagor o wybodaeth.
Edrychwch ar ein ffeithlun sy’n dangos rhai o’r heriau y mae gweithwyr ifanc yn eu hwynebu.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 9th Ionawr 2026