Skip to content

Gweithwyr ifanc yn y gweithle

Dysgwch sut y gall gweithwyr ifanc (16-24) fod o fudd i weithleoedd, yr heriau maen nhw'n eu hwynebu ac archwiliwch sut y gall cyflogwyr eu cefnogi.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Gall cyflogwyr wneud llawer o bethau i wneud gweithleoedd yn gefnogol, yn iach ac yn gynhyrchiol i weithwyr ifanc.

Gall rhoi cefnogaeth strwythuredig yn gynnar wella llesiant, gwydnwch a chadw staff yn y tymor hir.

Isod mae rhai syniadau i’w defnyddio yn eich gweithle.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeithlun CIW ‘Ffyrdd o gefnogi gweithwyr ifanc yn y gweithle’ i gael syniadau.

Prosesau recriwtio

Gwnewch eich prosesau recriwtio yn glir, yn gynhwysol ac yn addasadwy i anghenion unigol.

Dysgwch fwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a niwroamrywiaeth yn y gwaith.

Hyfforddiant i reolwyr

Mae rheolwyr llinell yn chwarae rhan allweddol ym mhrofiadau cynnar pobl yn y gweithle.

Dylai hyfforddiant eu helpu i:

  • Siarad am lesiant
  • Deall niwroamrywiaeth
  • Rheoli materion sensitif
  • Cefnogi dechreuwyr newydd
  • Gosod ffiniau a disgwyliadau
Cynefino

Mae cyfnod cynefino clir a strwythuredig yn meithrin hyder ac yn helpu gweithwyr ifanc i addasu i ddisgwyliadau yn y gweithle.

Cynlluniwch sesiynau rheolaidd i ddal fyny i weld sut mae’n mynd, rhoi adborth ac ateb cwestiynau.

Mentora neu gyfeillio

Parwch weithwyr ifanc â mentor neu gyfaill. Bydd hyn yn rhoi cefnogaeth iddynt, yn lleihau eu pryder ac yn eu helpu i feithrin annibyniaeth.

Mae hefyd yn cefnogi rhannu gwybodaeth ac yn helpu i feithrin perthynas ystyrlon gyda phobl eraill yn y gweithle.

Hyrwyddo cyswllt wyneb yn wyneb yn rheolaidd

Gall cyswllt wyneb yn wyneb rheolaidd, yn enwedig yn gynnar, adeiladu cysylltiad, cefnogi dysgu a chryfhau’r berthynas rhwng tîm.

Cyfathrebu clir

Mae gweithwyr ifanc yn elwa o gyfathrebu sy’n glir, yn gyson ac yn adeiladol.

Darganfyddwch fwy am gyfathrebu yn y gweithle.

Cymorth gyda llesiant ariannol

Mae llawer o weithwyr ifanc yn wynebu pwysau ariannol. Gall cyflogwyr helpu drwy rannu cyngor dibynadwy, fel Helpwr Arian gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).

Dysgwch fwy am lesiant ariannol yn y gweithle.

Cyfleoedd ar gyfer twf

Mae llwybrau gyrfa clir yn helpu gweithwyr ifanc i aros yn frwdfrydig.

Dylai cyflogwyr:

  • Nodi llwybrau gyrfa
  • Rhoi hyfforddiant a datblygiad
  • Cynnig cyfleoedd i symud ymlaen

Ewch i’n tudalen datblygiad gweithwyr i ddysgu mwy.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 9th Ionawr 2026

Tri gweithiwr yn edrych ar liniadur gyda'i gilydd mewn gweithle diwydiannol.