Cefnogi gofalwyr yn y gwaith
Dysgwch am fanteision cefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl a dysgwch beth allwch chi ei wneud i greu gweithle cefnogol.
Pwy yw gofalwyr di-dâl?
Gofalwr di-dâl yw unrhyw un sy’n gofalu am rywun sy’n sâl, yn anabl, yn hŷn, sydd â phryderon iechyd meddwl neu sy’n dioddef dibyniaeth, a hynny heb gael ei dalu gan gwmni neu awdurdod lleol i wneud hyn.
Mae’r gofal fel arfer dros aelod o’r teulu neu ffrind.
Gallai cyfrifoldebau gofalu fod yn unrhyw beth o ychydig oriau yr wythnos, i ofal rownd y cloc.
Dysgwch fwy a chael gafael ar adnoddau o brosiect Ymwybyddiaeth o Gofalwyr (Saesneg yn unig) gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru, gan gynnwys Hyfforddiant Ymwybodol o Ofal ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol:
Modiwl 1 – Cyflwyniad i Ymwybyddiaeth Gofalwyr
Modiwl 2 – Deall Adnabod Gofalwyr
Gofalwyr ifanc
Dangosodd adroddiad gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr (Saesneg yn unig) fod gan bobl ifanc â chyfrifoldebau gofalu gyfraddau llawer uwch o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET) na phobl nad ydynt yn gofalwyr.
Dysgwch ragor am gefnogi gweithwyr ifanc yn y gweithle.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8th Mehefin 2026