Skip to content

Cefnogi gofalwyr yn y gwaith

Dysgwch am fanteision cefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl a dysgwch beth allwch chi ei wneud i greu gweithle cefnogol.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr angen i gefnogi gofalwyr yn y gweithle

Yn aml, gall gofalwyr deimlo’n anweledig, wedi’u hanwybyddu, ac yn destun gwahaniaethu yn y gweithle.

Dengys ymchwil gan Carers UK(Saesneg yn unig) y bydd 22% o weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofal, heb y gefnogaeth gywir, yn lleihau eu horiau neu’n rhoi’r gorau i weithio.

Mae ymyrryd a chefnogi’n gynnar yn allweddol.

Dylid chwilio am arwyddion bod gweithwyr â chyfrifoldebau gofalu:

  • wedi blino
  • dan straen
  • yn brwydro i reoli eu hiechyd corfforol a meddyliol eu hunain

Nid oes rhaid i weithwyr ddatgelu bod ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Fodd bynnag, bydd ymgysylltu â’r holl weithwyr waeth beth fo’u hoedran yn eich helpu i ddod i ddeall yn dda pwy yw’r gofalwyr di-dâl yn eich gweithle.

Absenoldeb Gofalwr

Mae Deddf Absenoldeb i Ofalwyr 2023 yn rhoi hawl i bob gofalwr di-dâl gymryd hyd at wythnos o wyliau di-dâl gan ei gyflogwr y flwyddyn i ddarparu gofal di-dâl i rywun.

Dysgwch fwy am Absenoldeb i Ofalwr ar wefan Acas (Saesneg yn unig).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8th Mehefin 2026