Cefnogi gofalwyr yn y gwaith
Dysgwch am fanteision cefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu di-dâl a dysgwch beth allwch chi ei wneud i greu gweithle cefnogol.
Gwerth cefnogi gofalwyr yn y gweithle
Mae nifer cynyddol o bobl yn cydbwyso cyflogaeth â thâl gyda chyfrifoldebau gofalu di-dâl.
Mae amcangyfrifon gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru (10.5% o boblogaeth Cymru). Mae’n debygol y bydd gennych ofalwyr di-dâl yn gweithio i chi, p’un a ydynt wedi rhoi gwybod i chi ai peidio.
Gall canfod ffyrdd o gefnogi gweithwyr â chyfrifoldebau gofalu:
- gynyddu cyfraddau cadw gweithwyr a sgiliau
- gwella boddhad mewn swydd
- lleihau straen a gwella perfformiad
- lleihau absenoldeb
Mae’r adroddiad CIPD 2020 hwn (Saesneg yn unig) yn cynnwys mwy o wybodaeth am y ffyrdd y gall cefnogi gofalwyr sy’n gweithio gefnogi’r cyflogwyr a’r gweithwyr.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8th Mehefin 2026