Awyru ac ansawdd aer yn y gweithle
Dysgwch am awyru ac ansawdd aer yn y gwaith, sut maent yn effeithio ar iechyd a llesiant a sut i gymryd camau cadarnhaol i wella’ch gweithle.
Manteision awyru ac ansawdd aer da
Mae ymchwil yn dangos bod pobl yn treulio tua 90% o’u hamser dan do, gan gynnwys gartref, yn y gwaith ac wrth deithio.
Gall amgylcheddau dan do gynnwys amrywiaeth o lygryddion o ffynonellau fel:
- Deunyddiau adeiladu
- Coginio a gwresogi
- Cynhyrchion glanhau a defnyddwyr
- Gweithgareddau yn y gweithle
- Lleithder a llwydni
- Yr amgylchedd cyfagos
Gall awyru gwael ganiatáu i’r llygryddion hyn gronni, gan arwain at ansawdd aer dan do gwael.
Darllenwch fwy yn yr adroddiad briffio ymchwil ansawdd aer dan do hwn (Saesneg yn unig).
O dan reoliad 6 o’r Rheoliadau Iechyd, Diogelwch a Lles yn y Gweithle (Saesneg yn unig), rhaid i gyflogwyr sicrhau bod pob gweithle caeedig yn cael ei awyru gan ddigon o awryr iach neu wedi’i buro’.
Gall awyru ac ansawdd aer da gefnogi:
- Gwell iechyd corfforol
- Gwell canolbwyntio a pherfformiad gwybyddol
- Mwy o foddhad a chyfforddusrwydd yn y gwaith
- Llai o absenoldeb salwch
- Gwell ansawdd cwsg
- Llai o amlygiad i lygryddion niweidiol
Darganfyddwch fwy am iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18th Mehefin 2026