Skip to content

Awyru ac ansawdd aer yn y gweithle

Dysgwch am awyru ac ansawdd aer yn y gwaith, sut maent yn effeithio ar iechyd a llesiant a sut i gymryd camau cadarnhaol i wella’ch gweithle.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Monitro ac asesu eich gweithle
  • Cynhaliwch asesiad risg i nodi ardaloedd sydd wedi’u hawyru’n wael
  • Defnyddiwch fonitorau CO₂ fel dangosydd o effeithiolrwydd awyru
  • Rhowch sylw i ardaloedd sy’n teimlo’n fyglyd, llaith neu sy’n aml ag arogleuon

Mae canllawiau pellach ar gael ar wefan yr HSE (Saesneg yn unig).

Gwella awyru
  • Agorwch ffenestri, fentiau a drysau lle bo’n ddiogel gwneud hynny (peidiwch â chadw drysau tân ar agor)
  • Sicrhewch bod systemau mecanyddol yn gweithio’n gywir ac yn cael eu cynnal
  • Gwnewch y mwyaf o fewnlif awyr iach lle bo’n bosibl, yn enwedig mewn systemau ailgylchredeg

Ewch i wefan yr HSE am ragor o wybodaeth am wella awyru (Saesneg yn unig).

 

Ymgysylltu a hysbysu gweithwyr

Gall cynnwys gweithwyr helpu i nodi problemau a datrysiadau.

Anogwch staff i ystyried:

  • sut mae awyr iach yn mynd i mewn i’w gweithle
  • a yw systemau awyru’n gweithio’n effeithiol
  • pa newidiadau allai wella’r llif aer
  • p’un a oes unrhyw ardaloedd yn teimlo’n anghyfforddus neu wedi eu hawyru’n wael

Rhowch hyfforddiant ar:

  • bwysigrwydd awyru
  • sut i ddefnyddio systemau’n gywir
  • rhoi gwybod am bryderon
Creu amgylchedd iachach
  • Cyflwynwch blanhigion dan do lle bo’n briodol i wella llesiant
  • Cyfunwch welliannau awyru â mentrau llesiant ehangach yn y gweithle

Darganfyddwch fwy am ymgysylltu â natur yn y gwaith ac iechyd a llesiant meddyliol yn y gwaith.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18th Mehefin 2026