Skip to content

Sut mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn defnyddio byd natur i gefnogi llesiant staff

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn cefnogi staff ac yn lleihau diffygiad gyda’i Raglen Ymadfer ym Myd Natur. Trwy gyfuno amser ym myd natur, ymyriadau therapiwtig, addysg am iechyd meddwl a gweithgareddau llesiant dan arweiniad, mae’r rhaglen wedi dangos buddion clir i lesiant staff.

Trosolwg o’r sefydliad

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn un o sefydliadau’r GIG sy’n cwmpasu tair sir yn ne-orllewin Cymru – sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ac yn cyflogi tua 13,000 o staff.

Yr her

Mae Gwasanaeth Llesiant Seicolegol Staff (SPWBS) o fewn BIPHDd, fel llawer o sefydliadau’r GIG, wedi bod yn archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â lefelau cynyddol o straen, diffygiad, ac absenoldebau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl.

Ers pandemig COVID-19, mae’r lefelau o straen a diffygiad a adroddwyd ymhlith staff wedi cynyddu, gan adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol. Hefyd, straen, gorbryder ac iselder yw prif achosion absenoldeb oherwydd salwch o fewn BIPHDd.

Er y bu cyfleoedd cwnsela a hyfforddi eisoes ar gael, roedd bwlch o hyd o ran darparu cymorth therapiwtig ar sail grŵp.

Beth wnaeth y sefydliad?

I fynd i’r afael â’r heriau hyn, datblygodd SPWBS Raglen Ymadfer ym Myd Natur sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a hynny gyda’r nod o leihau straen a diffygiad wrth wella llesiant staff.

I ddechrau, sicrhaodd y tîm gyllid gan NHS Charities Together, a oedd yn galluogi cynllun peilot dwy flynedd. Yna, gwnaethon nhw ddatblygu’r rhaglen ac iddi ddwy gydran allweddol:

  • Enciliadau EcoTherapi pedwar diwrnod, a gyflwynwyd fel un diwrnod yr wythnos dros bedair wythnos, yn cynnig ymyrraeth therapiwtig strwythuredig
  • Diwrnodau Ymadfer ym Myd Natur sengl, a oedd yn darparu offer a gwybodaeth ymarferol i staff er mwyn cefnogi eu hiechyd meddwl trwy fyd natur

Cynhaliwyd y rhaglen mewn coetiroedd lleol, gan ddefnyddio cyfuniad o fannau cyhoeddus a mannau mewn perchnogaeth breifat (gyda chaniatâd). Roedd y sesiynau’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau therapiwtig dan arweiniad a oedd wedi’u gwreiddio mewn EcoTherapi, sef dull therapiwtig sy’n seiliedig ym myd natur, fel ymwybyddiaeth ofalgar, hunan-dosturi ac elfennau addysgol.

Cefnogwyd y ddarpariaeth gan broses weinyddol a gwerthuso strwythuredig. Gwnaeth cyfranogwyr gais a chawsant eu sgrinio i sicrhau eu bod yn addas. Cyn dechrau’r rhaglen, gwnaeth y rhai a gymerodd ran yn y rhaglen 4 diwrnod lenwi holiaduron a oedd yn mesur llesiant a diffygiad.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen, gofynnwyd i gyfranogwyr roi adborth a, lle bo’n briodol, ail-lenwi’r holiaduron i fesur newid. Hefyd, darparwyd e-byst dilynol gydag adnoddau ac awgrymiadau ychwanegol i atgyfnerthu’r dysgu.

Dangosodd data gwerthuso o’r cynllun peilot ganlyniadau cadarnhaol, a oedd yn helpu i sicrhau cyllid pellach i barhau â’r rhaglen.

Daethpwyd ar draws rhai heriau wrth gyflwyno’r rhaglen. Roedd hyn yn cynnwys hyrwyddo’r rhaglen i staff mewn rolau anodd eu cyrraedd, sicrhau lleoedd mewn coetiroedd ar gyfer sesiynau olynol a galluogi staff i fod yn bresennol, yn enwedig ar gyfer y rhaglen lawn a oedd yn para am bedair wythnos. Byddai dull mwy cyson, ar draws y sefydliad, o gefnogi presenoldeb wedi helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn.

Y canlyniadau

Dangosodd gwerthusiad o’r rhaglen ymateb cadarnhaol cryf i’r rhaglen o’r data ac o adborth y cyfranogwyr.

Gwellodd sgoriau llesiant yn dilyn y rhaglen a gwnaethant aros yn uwch adeg y gwaith dilynol ar ôl tri mis. Dangosodd mesurau diffygiad ostyngiadau mewn blinder emosiynol, hefyd, a mwy o ymdeimlad o gyflawniad personol, er na welwyd unrhyw newid sylweddol mewn dadbersonoli.

Cipiodd gwerthusiad ‘Y Newid Mwyaf Arwyddocaol’ straeon cyfranogwyr, a rannwyd gyda rhanddeiliaid ac a gyfrannodd at sicrhau cyllid parhaus.

Er nad oedd yn bosibl mesur yr effaith uniongyrchol ar absenoldeb oherwydd salwch, roedd adborth gan gyfranogwyr yn tynnu sylw at werth y rhaglen. Disgrifiodd y cyfranogwyr fel a ganlyn:

“Y defnydd gorau o absenoldeb astudio mewn 10 mlynedd”

“Newid bywyd”

Dyma ychydig o ddyfyniadau gan staff a gymerodd ran:

“Diolch yn fawr iawn am brofiad gwirioneddol ysgogol ac ysbrydoledig, roeddwn i wrth fy modd â phob munud ohono.”

“Croesawgar, agored a derbyniol o ddioddefaint a gafodd ei ddal a’i gydnabod mewn ffordd garedig, ddiogel a thosturiol.” Myfyriol a blaengar wrth ddarparu/hyrwyddo taith bersonol ystyrlon o fod/bodoli ar y blaned hon, gyda natur a chyda phobl eraill.”

“Roedd hwn yn brofiad gwirioneddol bleserus a buddiol ac un y byddwn yn ei argymell o galon i eraill.”

Awgrym gorau i gyflogwyr eraill

Un o’r rhwystrau mwyaf oedd y ffaith nad oedd modd i staff gymryd rhan oherwydd llwyth gwaith neu ddiffyg cefnogaeth eu rheolwyr.

Dylai sefydliadau anelu at wneud mynediad at gymorth llesiant mor hawdd â phosibl, boed hynny yn ystod oriau gwaith, trwy absenoldeb astudio, neu drwy ymgorffori polisi ar draws y sefydliad.

Adnoddau i gyflogwyr