Skip to content

Ymgysylltu â natur

Archwiliwch sut gallwch chi ddatblygu gweithle sy'n gysylltiedig â natur i hybu llesiant gweithwyr a gwella cynhyrchiant busnes.

Neidio'r tabl cynnwys

Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle

Rydym yn gyffrous i rannu adnodd lles i’w ddefnyddio drwy gydol y flwyddyn.

Cafodd Calendr Llesiant Natur yn y Gweithle ei gyd-gynllunio gan RSPB Cymru a Chymru Iach ar Waith yn dilyn gweithdai gyda chyflogwyr. Bydd y gweithgareddau syml sydd wedi’u cynnwys yn eich helpu i gysylltu â natur ac maent wedi’u cynllunio i gefnogi a gwella eich llesiant a’ch iechyd.

Mae tystiolaeth yn dangos y gall cysylltu â natur wneud y canlynol:

  • lleihau teimladau o straen a gorbryder
  • gwella ein hwyliau
  • ein helpu i ymlacio
  • lleihau pwysedd gwaed
  • gwella iechyd corfforol
  • gwella ansawdd cwsg
  • gwella hyder a hunan-barch
  • helpu i leihau unigrwydd

Mae cysylltu â natur yn rhad ac am ddim

Nid oes angen offer, sgiliau na phrofiad arbennig arnoch chi. Gyda gwisg addas, gellir ei wneud ym mron unrhyw dywydd. Mae natur ym mhobman ac i bawb.

Gallwch ddod o hyd iddo bron unrhyw le yn agos at ble rydych chi’n byw neu’n gweithio – mewn gerddi a gwrychoedd, ar hyd palmentydd ac ar adeiladau, mewn parciau, ar draeth, neu drwy edrych allan o ffenestr.

Gallwch sylwi ar natur a chysylltu â hi drwy gydol y flwyddyn lle rydych chi’n byw neu’n gweithio ac mae’r gweithgareddau awgrymedig wedi’u nodi mewn calendr misol.

Rhannwch eich adborth

Byddem wrth ein bodd yn gweld sut rydych chi a’ch timau’n defnyddio’r adnodd – cysylltwch â ni i rannu pa weithgareddau rydych chi wedi bod yn eu mwynhau a rhannwch unrhyw adborth sydd gennych am y calendr.

Cysylltwch â ni

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8th Gorffennaf 2026