Skip to content

Boddhad swydd

Dysgwch pam mae boddhad swydd yn bwysig, manteision creu amgylchedd gwaith cadarnhaol a darganfod ffyrdd ymarferol o gefnogi llesiant yn y gwaith.

Neidio'r tabl cynnwys

Pam mae boddhad swydd yn bwysig

Boddhad swydd yw sut rydyn ni’n teimlo am ein gwaith, ein rôl a’n gweithle. Mae hyn yn cynnwys teimlo eich bod chi’n cael eich gwerthfawrogi, eich cefnogi a’ch ysgogi yn y gwaith.

Mae boddhad swydd yn cael ei ddylanwadu gan lawer o ffactorau fel:

  • Arweinyddiaeth
  • Diwylliant y gweithle
  • Cyfathrebu
  • Cyfleoedd datblygu
  • Hyblygrwydd
  • Llwyth gwaith
  • Cydnabyddiaeth

Mae creu gweithle lle gall gweithwyr ffynnu o fudd i weithwyr a chyflogwyr.

Mae manteision boddhad swydd yn cynnwys:

Mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cymell a’u bod yn rhan o bethau

Pan fydd rheolwyr yn cefnogi ac yn cydnabod gwaith da, mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Gall hyn gynyddu hyder, cymhelliant ac ymrwymiad. Mae gweithwyr sy’n teimlo’n rhan o bethau ac yn cael eu gwerthfawrogi yn fwy tebygol o wneud eu gorau ac ymfalchïo yn yr hyn maen nhw’n ei wneud.

Mae timau’n gweithio’n well gyda’i gilydd

Mae gweithwyr bodlon yn fwy tebygol o weithio’n dda gyda’i gilydd, cyfathrebu’n effeithiol a chefnogi ei gilydd. Gall hyn leihau straen, atal gwrthdaro a chreu gweithle mwy cadarnhaol i bawb.

Darganfyddwch fwy am reoli straen a rheoli gwrthdaro yn y gweithle.

Gall sefydliadau gadw staff medrus

Mae boddhad swydd uchel yn golygu bod gweithwyr yn fwy tebygol o aros yn eu rolau yn y tymor hir. Mae hyn yn cadw sgiliau a gwybodaeth, yn lleihau costau recriwtio a hyfforddi ac yn cefnogi parhad gwasanaeth.

Mae gweithwyr bodlon yn fwy tebygol o rannu syniadau

Mae gweithwyr sy’n teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn hapus yn y gwaith yn fwy tebygol o rannu syniadau ac awgrymu gwelliannau. Gall hyn arwain at ffyrdd newydd o weithio a helpu sefydliadau i wella, addasu a thyfu.

Gwell llesiant a gwytnwch

Mae gweithwyr sy’n fodlon â’u swyddi yn aml yn profi llai o straen, gwell iechyd meddwl a chydbwysedd iachach rhwng bywyd a gwaith. Gall hyn leihau absenoldeb salwch a helpu i greu gweithlu iachach, hapusach a mwy cynaliadwy.

Darganfyddwch fwy am iechyd a llesiant meddyliol yn y gwaith.

Gwell enw da sefydliadol

Mae sefydliadau sy’n cefnogi boddhad swydd yn aml yn cael eu hystyried fel lleoedd da i weithio. Gall hyn helpu i ddenu talent, adeiladu ymddiriedaeth gyda gweithwyr a rhanddeiliaid a chryfhau enw da’r sefydliad.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 21st Awst 2026