Skip to content

Diogelwch seicolegol yn y gweithle

Dysgwch sut i feithrin diogelwch seicolegol yn y gwaith, eu parchu a'u bod yn gallu cyfrannu.

Neidio'r tabl cynnwys

Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud

Mae diogelwch seicolegol yn datblygu trwy ymddygiad bob dydd, arweinyddiaeth effeithiol a systemau teg yn y gweithle.

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi adeiladu diogelwch seicolegol yn eich gweithle:

Gosod disgwyliadau clir ac arwain trwy esiampl

Eglurwch pam mae cwestiynau, syniadau a phryderon yn bwysig. Gwnewch herio parchus yn rhan normal o’r gwaith. Byddwch yn glir na fydd bwlio na thriniaeth annheg yn cael eu derbyn.

Fel arweinydd, cyfaddefwch pan fyddwch chi’n ansicr, rhannu’r gwersi a ddysgwyd drwy wneud camgymeriadau a diolch i bobl sy’n herio’ch ffordd o feddwl. Cadwch yn ddigyffro pan fydd rhywun yn codi gwybodaeth anodd.

Creu cyfleoedd i weithwyr siarad

Darparu cyfleoedd rheolaidd i weithwyr ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a chodi pryderon.
Defnyddiwch sgyrsiau un-i-un, trafodaethau tîm, arolygon a sesiynau adborth i ddeall sut mae gweithwyr yn teimlo a nodi meysydd i’w gwella.

Gwnewch yn siŵr bod gweithwyr yn gwybod sut i roi gwybod am eu pryderon chwythu’r chwiban (Saesneg yn unig), cwynion (Saesneg yn unig) a chwynion difrifol.

Ymateb yn gadarnhaol pan fydd pobl yn codi llais

Gwrandewch heb dorri ar draws na rhuthro i feio. Eglurwch pwy fydd yn delio â’r mater, beth fydd yn digwydd nesaf a phryd y gall y gweithiwr ddisgwyl diweddariad.

Gweithredu’n gyflym ac yn deg

Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le, gofynnwch beth ddigwyddodd, beth gyfrannodd ato a beth sydd angen ei newid. Adolygwch y ffeithiau cyn penderfynu a oedd yn gamgymeriad, yn broblem gyda’r system neu’n gamymddygiad.

Cymerwch gamau ar unwaith os bydd rhywun yn codi risg diogelwch neu ddiogelu difrifol, camymddwyn difrifol posibl neu risg o niwed pellach.

ERhoi cynhwysiant wrth wraidd eich arfer bob dydd

Gwnewch yn siŵr bod gan bawb gyfle teg i rannu eu barn a darparwch ffyrdd hygyrch i bobl leisio’u barn.

Rhannwch agendâu ymlaen llaw a chaniatáu i bobl wneud sylwadau cyn, yn ystod ac ar ôl cyfarfodydd. Stopiwch ymyriadau, heriwch ymddygiad amharchus a gwnewch yn siŵr y gall cyfranogwyr o bell gyfrannu.

Cefnogi rheolwyr a defnyddio’r adnoddau sydd ar gael

Helpwch reolwyr i ddatblygu sgiliau mewn maes a all gefnogi diogelwch seicolegol. Gall hyn gynnwys:

  • gwrando, hyfforddi ac annog, ac adborth
  • rheolaeth gynhwysol
  • sgyrsiau anodd
  • straen oherwydd y gwaith
  • cwynion a chwythu’r chwiban

Mae Pecyn Cymorth Diogelwch Seicolegol Academi Gwelliant Cymru yn darparu canllawiau pellach ar gyfer gweithleoedd iechyd a gofal. Gall cyflogwyr mewn sectorau eraill hefyd ddysgu o’r adnoddau ymarferol a’r arferion da sydd ynddo.

Cynhelir Wythnos Diogelwch Seicolegol ym mis Medi. Gallwch ddefnyddio’r adnoddau Wythnos Diogelwch Seicolegol hyn i hyrwyddo’r ymgyrch yn eich gweithle chi.

Cael mynediad at gymorth am ddim gan Cymru Iach ar Waith

Defnyddiwch ein Offeryn Arolwg i Gyflogwyr rhad ac am ddim i adolygu eich dull gweithredu presennol a chael awgrymiadau ar gyfer y camau nesaf.

Gall cyflogwyr yng Nghymru hefyd gael mynediad at sesiynau Cymorth Cynghorydd yn y Gweithle un-i-un am ddim ar ôl cwblhau’r arolwg.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 4th Medi 2026