Gweminarau a gweithdai CIW sydd ar ddod
Mae gennym amrywiaeth o weminarau a gweithdai am ddim sydd â’r nod o hyrwyddo gweithleoedd a gweithwyr iachach ledled Cymru.
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Gweminarau
Bwlio ac aflonyddu yn y gweithle – 4 Tachwedd
Ymunwch â ni i mewnwelediad gwerthfawr ynghylch adnabod bwlio ac aflonyddu yn y gweithle, ei atal a mynd i’r afael ag ef.
10:00 – 11:00, MS Teams
Cofestrwch i fynychuDiogelwch seicolegol yn y gweithle – 26 Tachwedd
Ymunwch â ni i archwilio’r hyn y mae diogelwch seicolegol yn ei olygu a chamau ymarferol ar gyfer ei ddatblygu yn eich sefydliad.
10:00 – 11:00, MS Teams
Cofestrwch i fynychuGweithdai
Camau Cyntaf – 19 Tachwedd / 8 Rhagfyr
Ymunwch â ni ar gyfer gweithdy ymarferol i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at wella iechyd a llesiant yn y gwaith.
19 Tachwedd – 10:00 – 11:00, MS Teams
8 Tachwedd – 13:00 – 15:00, MS Teams
Cofestrwch i fynychuEwch, Amdani i ffynnu – 26 Tachwedd
Gall pobl 16 – 24 oed ymuno â ni am weithdy ymarferol i’w helpu i deimlo’n hyderus, bod ganddyn nhw bopeth y mae ei angen arnyn nhw a’u bod yn barod i ffynnu yn y gwaith.
13:30 – 15:00, MS Teams
Cofestrwch i fynychuYmunwch â ni yn ein digwyddiad blynyddol y mis nesaf
Ymunwch â ni yng Nghaerdydd ar 12 Tachwedd ar gyfer ein digwyddiad Cymru Iach ar Waith blynyddol.
Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn dod â sefydliadau o bob cwr o Gymru ynghyd i archwilio’r datblygiadau diweddaraf ym maes llesiant yn y gweithle.
- Cyfle i glywed y diweddaraf gan Cymru Iach ar Waith
- Cewch ddysgu am ein hymchwil i brofiadau gweithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru
- Ewch ati i ymuno â sgwrs banel a sesiwn holi ac ateb yn trafod llesiant yn y gweithle
- Cyfle i rwydweithio gyda chymheiriaid a chysylltu â thîm Cymru Iach ar Waith a sefydliadau partner
P’un a ydych chi’n newydd i Cymru Iach ar Waith neu eisoes yn ymwneud â’n rhaglen, bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i glywed am y datblygiadau diweddaraf, rhannu profiadau, meithrin cysylltiadau newydd a darganfod sut y gallwn ni gefnogi eich sefydliad chi i greu gweithle iachach.
Manylion y digwyddiad
- Dyddiad: 12 Tachwedd 2026
- Amser: 09:00 – 13:00
- Lleoliad: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Capital Quarter 2, Caerdydd