Codi a chario yn y gwaith
Dysgwch sut i leihau risgiau codi a chario, atal anafiadau cyhyrysgerbydol a chefnogi gweithwyr i aros yn iach ac yn ddiogel yn y gwaith.
Yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud
Dylai rheoli risgiau codi a chario fod yn rhan o arfer bob dydd y gweithle, nid dim ond yn weithgarwch hyfforddi. Gall cyflogwyr helpu i leihau’r risg o anaf drwy gynllunio gwaith yn ddiogel, darparu cyfarpar priodol, cefnogi gweithwyr ac adolygu risgiau’n rheolaidd.
Dyma rai camau y gall eich gweithle eu cymryd i gefnogi codi a chario diogel.
Asesu a rheoli risgiau
Ewch ati i gynnal asesiadau risg codi a chario rheolaidd ac adolygu’r rhain pryd bynnag y bydd tasgau, cyfarpar neu amgylcheddau gwaith yn newid.
Lle bo modd, ewch ati i gael gwared ar yr angen i godi a chario yn gyfan gwbl, neu ddod o hyd i ffyrdd mwy diogel o gwblhau’r dasg.
Am ganllawiau ar asesiadau risg codi a chario, ewch i dudalen we codi a chario yn y gwaith gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Saesneg yn unig).
Darparu gwybodaeth, arweiniad a hyfforddiant
Dylai gweithwyr dderbyn gwybodaeth, cyfarwyddyd a hyfforddiant priodol i’w helpu i gyflawni tasgau codi a chario yn ddiogel. Dylent ddeall:
- Y risgiau sy’n gysylltiedig â gweithgarwch codi a chario
- Ffyrdd diogel o weithio
- Sut i ddefnyddio cyfarpar yn gywir
- Beth i’w wneud os ydynt yn nodi risg, perygl neu bryder
Dylai hyfforddiant fod yn berthnasol i’r tasgau y mae gweithwyr yn eu cyflawni a’i atgyfnerthu trwy oruchwyliaeth briodol, arferion gweithle a hyfforddiant gloywi lle bo angen.
Fodd bynnag, ni ddylid dibynnu ar hyfforddiant fel yr unig ddull o reoli. Dylai cyflogwyr geisio yn gyntaf ddileu tasgau codi a chario peryglus lle bo modd neu gyflwyno atebion yn y gweithle sy’n lleihau’r angen am ymdrech gorfforol.
Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o wybodaeth am hyfforddiant codi a chario (Saesneg yn unig).
Annog cyfathrebu ac adrodd
Yn aml, gweithwyr yw’r cyntaf i nodi problemau gyda thasgau codi a chario.
Ewch ati i greu cyfleoedd i weithwyr:
- Roi gwybod am bryderon
- Awgrymu gwelliannau
- Tynnu sylw at gyfarpar diffygiol
- Adrodd am ddamweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd ac anafiadau
Dysgwch ragor am gyfathrebu yn y gweithle.
Gall diwylliant adrodd cadarnhaol helpu i atal anafiadau cyn iddynt ddigwydd.
Darparu cyfarpar addas ac atebion dylunio yn y gweithle
Gall defnyddio cyfarpar addas helpu i leihau gofynion corfforol tasgau codi a chario a lleihau’r risg o anaf.
Wrth ddewis cyfarpar neu atebion yn y gweithle, dylai cyflogwyr ystyried:
- Y dasg sy’n cael ei chyflawni
- Y llwyth sy’n cael ei symud
- Yr amgylchedd gwaith
- Pa mor aml y caiff y dasg ei chwblhau
Anghenion gweithwyr, gan gynnwys y rhai â chyflyrau iechyd, amhariad neu anableddau
Dylai gweithwyr fod yn rhan o nodi a phrofi atebion lle bo modd, gan y gallant roi cipolwg gwerthfawr ar yr hyn sy’n gweithio’n ymarferol.
Dylid cynnal a chadw, archwilio a chefnogi unrhyw gyfarpar a ddarperir yn rheolaidd gan gyfarwyddyd a hyfforddiant priodol.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar Ganllawiau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gymhorthion codi a chario (Saesneg yn unig).
Hyrwyddo iechyd cyhyrysgerbydol da
Dylai atal anafiadau codi a chario fod yn rhan o ddull ehangach o gefnogi iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle.
Gall cyflogwyr helpu drwy:
- Annog gweithwyr i roi gwybod am boenau ac anghysur yn gynnar
- Dylunio gwaith i leihau symudiadau ailadroddus ac ystumiau lletchwith
- Cefnogi symudiad rheolaidd drwy gydol y diwrnod gwaith
- Hyrwyddo gweithgarwch corfforol a mentrau lles yn y gweithle
- Annog gweithwyr i geisio cefnogaeth cyn i broblemau waethygu
Gall ymyrraeth gynnar helpu i atal mân anghysur rhag datblygu’n broblemau cyhyrysgerbydol hirdymor.
Cefnogi gweithwyr ag anafiadau neu gyflyrau cyhyrysgerbydol
Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar weithwyr sy’n profi poen cefn, straen neu gyflyrau cyhyrysgerbydol eraill i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel.
Gallai cymorth gynnwys:
- Newidiadau dros dro i ddyletswyddau
- Addasiadau yn y gweithle
- Llai o ofynion codi
- Mynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol
- Cymorth ffisiotherapi neu adsefydlu
- Dychweliadau graddol i’r gwaith lle bo’n briodol
Gall cymorth cynnar wella adferiad, lleihau absenoldeb salwch a helpu gweithwyr i aros yn y gwaith.
Dysgwch fwy am iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle a rheoli absenoldeb salwch.
Hyrwyddo’r defnydd o Wasanaethau Cymorth yn y Gwaith
Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth am ddim i bobl gyflogedig a hunangyflogedig sy’n profi cyflyrau iechyd meddwl neu gyhyrysgerbydol.
Mae cymorth cyfrinachol am ddim ar gael i bobl sydd:
- Yn absennol o’r gwaith oherwydd cyflwr cyhyrysgerbydol neu iechyd meddwl
- Yn cael trafferth yn y gwaith oherwydd cyflwr cyhyrysgerbydol neu iechyd meddwl ac angen cymorth i aros yn y gwaith
Mae hyfforddiant a chymorth hefyd ar gael i gyflogwyr i helpu i wella lles yn y gweithle a chefnogi iechyd gweithwyr.
Dysgwch fwy am y Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith.
Monitro, adolygu a gwella
Gall risgiau codi a chario newid dros amser wrth i weithleoedd, cyfarpar ac arferion gwaith esblygu.
Dylai cyflogwyr wneud y canlynol:
- Adolygu asesiadau risg yn rheolaidd
- Dysgu o ddigwyddiadau a damweiniau y bu ond y dim iddynt ddigwydd
- Monitro absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â chyflyrau cyhyrysgerbydol
- Ceisio adborth gan weithwyr
- Nodi cyfleoedd i wella prosesau gwaith
Mae cefnogi iechyd cyhyrysgerbydol yn arbennig o bwysig mewn gweithlu sy’n heneiddio. Gall arferion codi a chario effeithiol helpu gweithwyr i aros yn iach, yn gynhyrchiol ac yn y gwaith am hirach.
Mae adolygiad rheolaidd yn helpu i sicrhau bod trefniadau codi a chario yn parhau i fod yn effeithiol ac yn parhau i ddiogelu iechyd a lles gweithwyr.
Cefnogi ymgyrchoedd ymwybyddiaeth a dysgu yn y gweithle
Gall ymgyrchoedd ymwybyddiaeth helpu i atgyfnerthu negeseuon allweddol am godi a chario diogel, iechyd cyhyrysgerbydol ac atal anafiadau.
Ystyriwch hyrwyddo ymgyrchoedd iechyd a lles mewnol perthnasol sy’n annog gweithgarwch corfforol, heneiddio’n iach ac iechyd cyhyrysgerbydol.
Mae ymgyrchoedd yn cynnwys:
- Diwrnod y Byd ar gyfer Diogelwch ac Iechyd yn y Gwaith (Saesneg yn unig) (28 Ebrill) – Yn codi ymwybyddiaeth o atal anafiadau yn y gweithle a chlefydau galwedigaethol.
- Wythnos Gweithredu ar Iechyd Esgyrn a Chymalau (Saesneg yn unig) (12 Hydref) – Yn hyrwyddo iechyd cyhyrysgerbydol ac yn annog atal ac ymyrraeth gynnar.
Dewch o hyd i ymgyrchoedd i’w hyrwyddo drwy gydol y flwyddyn.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Hydref 2026