Codi a chario yn y gwaith
Dysgwch sut i leihau risgiau codi a chario, atal anafiadau cyhyrysgerbydol a chefnogi gweithwyr i aros yn iach ac yn ddiogel yn y gwaith.
Beth yw codi a chario?
Mae codi a chario yn unrhyw weithgarwch sy’n cynnwys defnyddio ymdrech gorfforol i godi, gostwng, cario, gwthio, dal, symud neu gynnal unigolyn neu wrthrych.
Mae enghreifftiau o godi a chario yn cynnwys symud:
- Blychau a phecynnau
- Cyfarpar ac offer
- Deunyddiau a stoc
- Pobl sy’n cael gofal neu gymorth
Mae codi a chario yn gyffredin ar draws llawer o ddiwydiannau a galwedigaethau. Nid yw’n gyfyngedig i godi gwrthrychau trwm. Gall tasgau ailadroddus, gweithgareddau gwthio a thynnu, ystumiau lletchwith ac ymdrech gorfforol barhaus hefyd gynyddu’r risg o anaf.
Gall dulliau codi a chario gwael arwain at broblemau cyhyrysgerbydol, gan gynnwys poen cefn, straen, ysigiadau ac anafiadau eraill a all effeithio ar iechyd, lles a gallu gweithwyr i weithio.
Dysgwch fwy am iechyd cyhyrysgerbydol yn y gweithle.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 28th Hydref 2026