Hyrwyddwyr Gweithio Iach

Gweithdy ymarferol i ddatblygu Hyrwyddwyr Gweithio Iach sy’n cefnogi gweithleoedd iachach a mwy cynhwysol.

Addas ar gyfer gweithwyr sy’n teimlo’n angerddol am gefnogi llesiant eu cydweithwyr a chreu diwylliannau gweithle cadarnhaol.

Mae cynnig Hyrwyddwyr Gweithio Iach yn datblygu eiriolwyr hyderus yn y gweithle sy’n helpu i gysylltu cydweithwyr â chefnogaeth, dylanwadu ar ddiwylliant gweithle cadarnhaol a chreu’r amodau lle gall pobl a sefydliadau ffynnu.

Mae Hyrwyddwyr Gweithio Iach yn chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo arferion gweithio iach, annog cynhwysiant a llesiant a helpu cydweithwyr i gael mynediad at yr wybodaeth, yr adnoddau a’r gefnogaeth iawn. Drwy ganolbwyntio ar ffactorau yn y gweithle sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant, gall Hyrwyddwyr helpu i greu amgylcheddau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cefnogi a’u bod yn gallu perfformio ar eu gorau.

Beth yw Hyrwyddwr Gweithio Iach?

Mae Hyrwyddwr Gweithio Iach yn weithiwr sy’n hyrwyddo arferion gwaith iach, diwylliant gweithle cadarnhaol, a llesiant gweithwyr o fewn ei sefydliad. Mae hyrwyddwyr yn gweithredu fel eiriolwyr dibynadwy sy’n helpu i gysylltu cydweithwyr â chefnogaeth, yn annog cynhwysiant a pherthyn ac yn hyrwyddo camau gweithredu ymarferol sy’n cyfrannu at fywydau gwaith iachach a hapusach.

Nid yw hyrwyddwyr yn arbenigwyr mewn cyflyrau iechyd, yn gwnselwyr nac yn weithwyr llesiant proffesiynol. Eu rôl yw annog, dylanwadu a chyfeirio pobl, gan helpu i greu’r amodau lle gall pobl ffynnu yn y gwaith.

Ar gyfer pwy mae’r cynnig?

Mae’r cynnig Hyrwyddwyr Gweithio Iach yn addas ar gyfer unrhyw weithiwr sydd eisiau helpu i greu gweithleoedd iachach.

Nid oes angen gwybodaeth arbenigol am iechyd na llesiant. Gall Hyrwyddwyr Gweithio Iach ddod o unrhyw dîm neu adran ac maent wedi’u huno gan ymrwymiad a rennir i wella profiadau pawb o’r gweithle.

Pam dod yn Hyrwyddwr Gweithio Iach?

Mae Hyrwyddwyr Gweithio Iach yn canolbwyntio ar y ffactorau ehangach sy’n dylanwadu ar lesiant yn y gwaith bob dydd, gan gynnwys diwylliant, cynhwysiant, diogelwch seicolegol a sgyrsiau cefnogol.

Cefnogir hyrwyddwyr i wneud y canlynol:

  • Deall gwaith iach a llesiant yn y gweithle
  • Hyrwyddo adnoddau a mentrau Cymru Iach ar Waith
  • Annog diwylliannau gweithle iach, cynhwysol a chefnogol
  • Cyfeirio cydweithwyr at gefnogaeth a gwybodaeth briodol
  • Dylanwadu ar newid cadarnhaol yn y gweithle trwy gamau gweithredu bob dydd

Pa hyfforddiant a chefnogaeth fydd yr Hyrwyddwyr yn eu derbyn?

Bydd Hyrwyddwyr Gweithio Iach yn derbyn hyfforddiant ymarferol trwy weithdy rhyngweithiol sy’n ymdrin â gwaith iach, llesiant yn y gweithle, cynhwysiant, diogelwch seicolegol, sgyrsiau cefnogol a chyfeirio.

Yn dilyn y gweithdy, bydd yr Hyrwyddwyr yn gallu:

  • Cael mynediad at adnoddau, offer a chanllawiau Cymru Iach ar Waith
  • Derbyn syniadau ac adnoddau ymarferol i gefnogi gweithgarwch llesiant a chyfranogiad ynddo
  • Ymuno â rhwydwaith o Hyrwyddwyr Gweithio Iach i rannu dysgu, profiadau ac arferion da
  • Manteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu parhaus drwy weminarau, ymgyrchoedd a diweddariadau i Hyrwyddwyr
  • Derbyn cefnogaeth barhaus gan Cymru Iach ar Waith i helpu i gynnal momentwm a meithrin hyder yn y rôl

Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, bydd y cyfranogwyr yn derbyn:

  • Bathodyn digidol Hyrwyddwr Gweithio Iach y gellir ei arddangos mewn llofnodion e-bost, proffiliau mewnol a rhwydweithiau proffesiynol
  • Tystysgrif Hyrwyddwr Gweithio Iach

Gweithdai sydd ar ddod

Mae lleoedd yn gyfyngedig fel bod y gweithdy’n gallu parhau i fod yn ymarferol, yn gefnogol ac yn ddefnyddiol i bawb sy’n cymryd rhan. Bydd hyn yn rhoi amser i chi ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a dechrau cynllunio camau gweithredu sy’n iawn i’ch sefydliad.