Chwefror 2026
Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW)
Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Y mis hwn:
- Gweminar deall a rheoli gwrthdaro un y gweithle
- RCS yn cael ei gomisiynu gan Cymru Iach ar Waith i archwilio llesiant pobl ifanc yn y gweithle
- Adnoddau Cymru Iach ar Waith i wella iechyd a llesiant yn y gweithle
- Hyfforddiant cynhwysol i gyflogwyr wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer busnesau Blaenau Gwent
- Ysbrydoli gweithlu mwy egnïol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM)
- Dyddiadau allweddol: Ymgyrchoedd a digwyddiadau
Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.
Gweminar deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle

TMae amser o hyd i gofrestru ar gyfer y cyntaf o ddwy weminar ddiddorol ac addysgiadol ‘Deall a rheoli gwrthdaro yn y gweithle’, a gyflwynir mewn partneriaeth ag ACAS.
Bydd y sesiynau hyn yn archwilio sut y gall gweithleoedd ledled Cymru leihau’r risg o wrthdaro a meithrin perthnasoedd gwaith iachach.
Bydd y weminar hon:
- Yn egluro beth yw gwrthdaro yn y gweithle a pham y gall waethygu
- Yn amlygu camau ymarferol i greu diwylliant gweithle mwy cynhwysol
- Yn rhannu dulliau effeithiol o gefnogi staff a datrys gwrthdaro
Dydd Iau 12 Mawrth 2026
10:00 – 11:00
RCS yn cael ei gomisiynu gan Cymru Iach ar Waith i archwilio llesiant pobl ifanc yn y gweithle

Mae Cymru Iach ar Waith wedi comisiynu RCS i archwilio iechyd a llesiant pobl ifanc 16–24 oed yn y gweithle, gan roi ffocws ar iechyd meddwl.
Am fod straen sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn effeithio fwyfwy ar weithwyr ifanc, bydd y prosiect hwn yn casglu mewnwelediadau gan weithwyr ifanc a chyflogwyr ledled Cymru i ddeall yr heriau allweddol a nodi pa gefnogaeth sy’n gweithio orau.
Bydd y canfyddiadau’n helpu i ddatblygu canllawiau ac adnoddau ymarferol i wella llesiant yn y gweithle a chefnogi pobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy.
Pwy all gymryd rhan?
- Pobl ifanc a phrentisiaid sy’n barod i rannu eu profiadau
- Cyflogwyr a rheolwyr sy’n ceisio deall anghenion pobl ifanc yn well
- Gweithwyr proffesiynol AD, arweinwyr llesiant, mentoriaid neu unrhyw un sydd â mewnwelediad perthnasol
Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r cyfle hwn gyda gweithwyr ifanc, prentisiaid, cydweithwyr, neu unigolion eraill sydd â diddordeb yn llesiant pobl ifanc yn y gwaith.
Dyddiadau’r gweithdai
- Dydd Iau 26 Chwefror, Ar-lein, 1pm – 2pm (Saesneg yn unig)
- Dydd Gwener 6 Mawrth, Ar-lein, 1pm – 2pm (Saesneg yn unig)
- Dydd Mawrth 10 Mawrth, Ar-lein, 1pm – 2pm (Saesneg yn unig)
- Dydd Mawrth 17 Mawrth, Ar-lein, 1pm – 2pm (Saesneg yn unig)
- Dydd Mawrth 24 Mawrth, Prifysgol Bangor, 1pm – 2pm (Saesneg yn unig)
- Nos Fercher 25 Mawrth, Ar-lein, 6.30pm – 7.30pm (Saesneg yn unig)
Adnoddau Cymru Iach ar Waith i wella iechyd a llesiant yn y gweithle

Ydych chi wedi cwblhau’r Offeryn Arolwg Cyflogwyr Cymru Iach ar Waith? Os felly, gallwch gael mynediad at Gymorth Cynghorydd Gweithle Cymru Iach ar Waith, sy’n cynnig sesiynau cymorth rhithwir un-i-un gyda’n cynghorwyr.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth ychwanegol am ein rhaglen a’n hadnoddau ar wefan Cymru Iach ar Waith.
Ydych chi’n dechrau eich taith llesiant yn ystod 2026? Rhowch gynnig ar ein Pecyn Cychwyn Llesiant yn y Gweithle – cam cyntaf gwych.
Hyfforddiant cynhwysol i gyflogwyr wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer busnesau Blaenau Gwent
Ydych chi’n fusnes ym Mlaenau Gwent?
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig hyfforddiant cynhwysol am ddim i gyflogwyr drwy gyllid Trailblazer, a ddarperir gyda phartneriaid lleol.

Bydd y sesiynau yn cynnwys:
- Ymwybyddiaeth o Anabledd
- Ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth
- Pynciau ychwanegol i’ch helpu i greu gweithle hyderus a chynhwysol
Os ydych chi’n gyflogwr ym Mlaenau Gwent ac os hoffech chi gael hyfforddiant yn y dyfodol neu dderbyn rhagor o wybodaeth, cysylltwch â [email protected].
Ysbrydoli gweithlu mwy egnïol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM)
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) wedi trawsnewid y ffordd y mae gweithwyr yn ymgysylltu â gweithgarwch corfforol trwy ei her gweithgarwch flynyddol.
Mae’r her wedi cryfhau gwaith tîm ac wedi gwella diwylliant y gweithle. Mae’r tîm Dieteteg bellach yn cynnwys gweithgarwch corfforol mewn sesiynau teuluol, sy’n dangos sut y gall llesiant staff fod o fudd i gleifion hefyd.
Rhannodd The BIG Team Challenge:
“Rydym wedi bod yn hapus i gefnogi heriau camau BIPCTM ers 2023, ac mae dros 2,000 o bobl wedi cymryd rhan ynddynt. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi cerdded pellter sy’n cyfateb i fwy na 17 o deithiau o amgylch y byd. Fel cwmni yn y DU, mae’n wych gweld sefydliadau lleol yn defnyddio ein platfform i wella llesiant ac mae bwrdd iechyd arall yng Nghymru bellach wedi dechrau cynnal heriau hefyd.”
Dywedodd un aelod o staff:
“Ar y cyfan, roeddwn i’n teimlo bod yr her yn hynod gadarnhaol o ran cynyddu fy lefelau gweithgarwch fy hun a blaenoriaethu amser i symud.”
Darllenwch y stori lawn ar ein gwefan ac archwilio straeon llwyddiant eraill. Os oes gennych chi stori i’w rhannu, dywedwch wrthon ni ac ysbrydoli cyflogwyr eraill ledled Cymru!
Dyddiadau allweddol: Ymgyrchoedd a digwyddiadau
Diwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu (11 Mawrth)
Dysgwch am Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Ysmygu a sut y gall cyflogwyr gefnogi eu staff i roi’r gorau i ysmygu am byth, gwella eu hiechyd a chreu gweithle glanach.
Dysgwch fwy am Ddiwrnod Dim Ysmygu
Gweminar Deall a Rheoli Gwrthdaro yn y Gweithle (12 Mawrth)
Ymunwch â Cymru Iach ar Waith ar gyfer ail ran ein cyfres o weminarau dwy ran, sy’n cynnig cefnogaeth ymarferol i gyflogwyr ledled Cymru.
Diwrnod Cwsg y Byd (13 Mawrth)
Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cwsg ar gyfer iechyd, llesiant a pherfformiad yn y gwaith.
Dysgwch fwy am Ddiwrnod Cwsg y Byd
Wythnos Maeth a Hydradu (16-22 Mawrth)
Hyrwyddo arferion bwyta ac yfed gwell yn y gweithle i helpu staff i deimlo’n fwy ymgysylltiedig a chanolbwyntio’n well.
Dysgwch fwy am Wythnos Maeth a Hydradu
Wythnos Ymwybyddiaeth Dyled (16 –22 Mawrth)
Annog llesiant ariannol a chodi ymwybyddiaeth o’r cymorth dyled sydd ar gael.
Dysgwch fwy am Wythnos Ymwybyddiaeth Dyled
Diwrnod Iechyd y Geg y Byd (20 Mawrth)
Tynnwch sylw at bwysigrwydd hylendid y geg da a sut y gall cyflogwyr gefnogi arferion iach yn y gwaith.
Dysgwch fwy am Ddiwrnod Iechyd y Geg y Byd
Dysgwch fwy am Ddiwrnod Iechyd y Geg y Byd
Ebrill
- Mis ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau (01 Ebrill – 30 Ebrill)
- Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn (01 Ebrill – 30 Ebrill)
- Mis Ymwybyddiaeth Straen (01 Ebrill – 30 Ebrill)
- Diwrnod Iechyd y Byd (7 Ebrill)
- Diwrnod y Byd dros Ddiogelwch ac Iechyd yn y Gwaith (28 Ebrill)
- Ar eich Traed Brydain (30 Ebrill)
Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.