Mawrth 2026

Croeso i gylchlythyr Cymru Iach ar Waith (CIW).

Mae ein cylchlythyr misol yn rhoi diweddariadau rheolaidd gan y tîm Cymru Iach ar Waith. Mae’n cynnwys newyddion am iechyd a llesiant yn y gweithle a dolenni i ymgyrchoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.

Y mis hwn:

  • Beth sy’n newydd – Diweddariadau pwnc CIW
  • Cymryd rhan – archwilio llesiant pobl ifanc yn y gwaith
  • Cadwch y Dyddiadau – gweminarau Cymru Iach ar Waith (HWW) AM DDIM sydd ar ddod
  • Hyfforddiant niwroamrywiaeth am ddim gan Lywodraeth Cymru
  • Sut y gwnaeth Banc Datblygu Cymru adeiladu gweithle iachach
  • Dyddiadau allweddol: Ymgyrchoedd a digwyddiadau

Mae croeso i chi rannu ein cylchlythyr gyda’ch cydweithwyr neu rwydweithiau, ynghyd â’n manylion cofrestru a rhifynnau blaenorol.

Beth sy’n newydd – Diweddariadau gan raglen Cymru Iach ar Waith i wella iechyd a llesiant yn y gweithle

Llun agos o dîm gyda'u dwylo wedi'u pentyrru ar ei gilydd dros ddesg yn y gwaith

Yn dilyn ein gweminar hynod lwyddiannus ar ADHD ym mis Tachwedd 2025, rydym wedi lansio tudalen bwnc newydd ar Ddeall ADHD yn y gweithle. Ewch i’r dudalen i archwilio canllawiau ymarferol ar gefnogi gweithwyr ag ADHD ac adeiladu gweithle mwy cynhwysol.

Rydym hefyd wedi datblygu tudalen bwnc ar Gefnogi Gweithwyr sydd wedi Colli eu Golwg i helpu gweithwyr sydd wedi colli eu golwg i deimlo’n hyderus a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi, a’u galluogi i ffynnu yn y gwaith.

I gael rhagor o ysbrydoliaeth, darllenwch ein stori lwyddiant gyda Sight Cymru a darganfyddwch sut mae cyflogwyr yn codi ymwybyddiaeth ac yn creu gweithleoedd cynhwysol.

Cymryd rhan – archwilio llesiant pobl ifanc yn y gwaith

Lansio Prosiect Newydd. Pobl Ifanc mewn Cyflogaeth. Gwethdai ar y gweill ym mis Chwefror a mis MAwrth!

Mae Cymru Iach ar Waith wedi comisiynu RCS i archwilio iechyd a llesiant pobl ifanc 16–24 oed yn y gweithle, gyda ffocws penodol ar iechyd meddwl.

Am fod straen sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn effeithio fwyfwy ar weithwyr ifanc, bydd y prosiect hwn yn casglu mewnwelediadau gan weithwyr ifanc a chyflogwyr ledled Cymru i ddeall yn well yr heriau allweddol a nodi pa gefnogaeth sy’n gweithio orau.

Bydd y canfyddiadau yn ein helpu i ddatblygu canllawiau ac adnoddau ymarferol i wella llesiant yn y gweithle a chefnogi pobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy.

Pwy all gymryd rhan?

  • Pobl ifanc a phrentisiaid sy’n barod i rannu eu profiadau
  • Cyflogwyr a rheolwyr sy’n ceisio deall anghenion pobl ifanc yn well
  • Gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol, arweinwyr llesiant, mentoriaid neu unrhyw un sydd â mewnwelediad perthnasol
    Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r cyfle hwn gyda gweithwyr ifanc, prentisiaid a chydweithwyr.

Dyddiadau’r gweithdai

Methu dod i’r gweithdai? Cwblhewch yr arolwg!

Arolwg cyflogwyr Young People’s Health and Wellbeing at Work – Employer Survey – Fill in form (Saesneg yn unig)

Arolwg pobl ifanc Supporting health & wellbeing of young people at work – Fill in form (Saesneg yn unig)

Cadwch y Dyddiadau – gweminarau Cymru Iach ar Waith sydd ar ddod

Person yn teipio ar gyfrifiadur.

Rydym yn falch o gyhoeddi dwy weminar AM DDIM sydd ar ddod:

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ar gyfer un sesiwn neu’r ddwy. Bydd rhagor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth am gofrestru, yn cael eu rhannu yn fuan.

Gweminarau Llywodraeth Cymru AM DDIM: Addasiadau ar gyfer pobl niwrowahanol

Logo Llywodraeth Cymru

Mae Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru yn cynnig gweminarau codi ymwybyddiaeth AM DDIM ar addasiadau rhesymol yn y gweithle ar gyfer pobl niwrowahanol.
Bydd y sesiynau hyn yn darparu cyngor ac arweiniad ymarferol ar gefnogi unigolion niwrowahanol yn effeithiol yn eich sefydliad.

Manylion y Sesiwn

Cynulleidfa: Unrhyw aelod o staff sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am niwrowahaniaeth ac addasiadau cynhwysol yn y gweithle.

Cynnwys:

  • Deall pwysigrwydd addasiadau rhesymol
  • Dulliau arfer gorau ar gyfer creu amgylchedd cynhwysol
  • Addasiadau ymarferol ar gyfer cydweithwyr sy’n gweithio yn y swyddfa a gartref

Ieithoedd:

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg

Hyd:

1.5 awr (gan gynnwys egwyl fer a sesiwn holi ac ateb)

Dyddiadau i ddod

Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau pellach ar dudalen pwnc niwroamrywiaeth Cymru Iach ar Waith.

Sut yr adeiladodd Banc Datblygu Cymru weithle iachach drwy gefnogi niwroamrywiaeth yn y gwaith

Logo Banc Datblygu Cymru

Mae’r rhaglen hyfforddi niwroamrywiaeth wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar draws Banc Datblygu Cymru.
Un o’r canlyniadau mwyaf pwerus yw’r ffordd y mae wedi agor sgyrsiau am niwroamrywiaeth. Er enghraifft: sylwodd un cydweithiwr ar ei nodweddion niwrowahanol ei hun ac mae bellach yn ceisio diagnosis, ac yn cael cefnogaeth briodol yn y gweithle.

Mae rheolwyr yn nodi eu bod yn teimlo’n fwy hyderus a rhagweithiol wrth gynnig cefnogaeth, gan helpu cydweithwyr i berfformio ar eu gorau. Mae cyflwyno Llysgenhadon Niwroamrywiaeth hyfforddedig wedi cryfhau rhwydweithiau cymorth mewnol ac yn dangos yn glir ymrwymiad Banc Datblygu Cymru i gynhwysiant.

Yn bwysig, cydnabu Banc Datblygu Cymru y gellir ac y dylid gwneud addasiadau i’r gweithle hyd yn oed heb ddiagnosis ffurfiol. Gall newidiadau syml megis rhannu agendâu ymlaen llaw neu ddarparu crynodebau ysgrifenedig ar ôl cyfarfodydd, wneud gwahaniaeth mawr.

Darllenwch y stori lawn ar ein gwefan ac archwilio straeon llwyddiant eraill.

Os oes gennych chi stori i’w rhannu, dywedwch wrthon ni ac ysbrydoli cyflogwyr eraill ledled Cymru!

Adnoddau Cymru Iach ar Waith i wella iechyd a llesiant yn y gweithle

Logo Cymru Iach ar Waith

Ydych chi wedi cwblhau’r Offeryn Arolwg Cyflogwyr Cymru Iach ar Waith? Os felly, gallwch gael mynediad at Gymorth Cynghorydd Gweithle Cymru Iach ar Waith, sy’n cynnig sesiynau cymorth rhithwir un-i-un gyda’n cynghorwyr.

Gallwch hefyd gael gwybodaeth ychwanegol am ein rhaglen a’n hadnoddau ar wefan Cymru Iach ar Waith.

Dyddiadau allweddol: Ymgyrchoedd a digwyddiadau

Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn (01 -30 Ebrill)

Hyrwyddo ymwybyddiaeth o symptomau a phwysigrwydd sgrinio yn eich gweithle.

Dysgu rhagor am Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn

Mis Ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau (01 -30 Ebrill)

Annog canfod canser yn gynnar a sgyrsiau agored am iechyd dynion.

Dysgu rhagor am Mis Ymwybyddiaeth Canser y Ceilliau

Mis Ymwybyddiaeth Straen (01 -30 Ebrill)

Codi ymwybyddiaeth am straen yn y gwaith a rhannu adnoddau cefnogol.

Dysgu rhagor am Mis Ymwybyddiaeth Straen

Diwrnod y Byd dros Ddiogelwch ac Iechyd yn y Gwaith (28 Ebrill)

Cymryd camau i atal damweiniau, gwella llesiant a hyrwyddo diwylliant sy’n rhoi diogelwch yn gyntaf.

Dysgu rhagor am Ddiwrnod y Byd dros Ddiogelwch ac Iechyd yn y Gwaith

Ar Eich Traed Brydain (30 Ebrill)

Anogwch weithwyr i symud mwy yn ystod y diwrnod gwaith a hyrwyddwch weithleoedd egnïol.

Dysgwch ragor am Ar Eich Traed Brydain

Mai

Gallwch ddod o hyd i weddill ymgyrchoedd y flwyddyn ar ein gwefan.