Skip to content
Loading Digwyddiadau

Gweithdy Niwroamrywiaeth: Meddwl yn Wahanol

Ymunwch â CIW ar gyfer gweithdy ddeniadol a llawn mewnwelediad sy'n archwilio'r hyn y mae'n ei olygu i greu gweithle cefnogol a niwrogynhwysol.

Nod y gweithdy hon yw helpu cyflogwyr ledled Cymru i gryfhau eu dealltwriaeth o niwroamrywiaeth a datblygu dulliau mwy cynhwysol o gefnogi gweithwyr niwroamrywiol.

Y pynciau sydd i’w trafod

  • Beth yw niwroamrywiaeth
  • Pam mae niwrogynhwysiant yn bwysig
  • Herio mythau a stereoteipiau
  • Archwilio arferion cynhwysiant yn y gweithle

Pwy all fynychu

Mae’r gweithdy gyflwyniadol a rhyngweithiol hon yn agored i gyflogwyr ledled Cymru, gan gynnwys rheolwyr, arweinwyr AD, rheolwyr pobl ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygu eu dealltwriaeth o niwroamrywiaeth yn y gweithle.

Mae wedi’i anelu at ddechreuwyr a’r rhai sydd heb fawr o wybodaeth neu brofiad blaenorol o niwroamrywiaeth.

Ar ôl cymryd rhan yn y gweithdy, byddwch hefyd yn gymwys i wneud cais am ein Bathodyn Cydnabod Cyflogwr Gweithredol.

Manylion y gweithdy

  • 28 Ionawr 2027
  • 10:00 – 12:00
  • MS Teams

Cofrestrwch i fynychu

Mae lleoedd yn gyfyngedig fel bod y gweithdy’n gallu parhau i fod yn ymarferol, yn gefnogol ac yn ddefnyddiol i bawb sy’n cymryd rhan. Bydd hyn yn rhoi amser i chi ofyn cwestiynau, rhannu syniadau a dechrau cynllunio camau gweithredu sy’n iawn i’ch sefydliad.

O bryd i’w gilydd, gall amgylchiadau annisgwyl olygu bod angen i ni ohirio ac aildrefnu gweithdy. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn gweithio gyda’r grŵp i gytuno ar ddyddiad newydd.


  • Gweithdy