Wythnos Gofalwyr
Gwybodaeth am y digwyddiad
- Dyddiad
Dysgwch sut y gall cyflogwyr ddefnyddio Wythnos Gofalwyr i godi ymwybyddiaeth o ofalu, cefnogi gweithwyr sy'n ofalwyr di-dâl a rhannu gwybodaeth ac adnoddau am ofalu.
Gwerth cefnogi Wythnos Gofalwyr yn y gwaith
Mae Wythnos Gofalwyr yn ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl a chydnabod eu cyfraniad tuag at deuluoedd a chymunedau ledled y DU.
Mae hefyd yn helpu pobl nad ydyn nhw’n meddwl amdanyn nhw eu hunain fel rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i ystyried eu hunain yn ofalwyr ac i gael mynediad i’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw gymaint.
Fel cyflogwr, gall cefnogi gweithwyr sy’n ofalwyr di-dâl helpu gweithwyr i aros mewn gwaith ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu.
Cymerwch ran yn Wythnos Gofalwyr yn eich gweithle chi
Dyma rai pethau y gallwch chi ystyried eu gwneud yn eich gweithle chi yn ystod Wythnos Gofalwyr.
Trefnu digwyddiad
Gall codi arian fod yn weithgaredd hwyl yn y gweithle. O foreau coffi, i deithiau cerdded noddedig neu werthiant llyfrau, mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan.
Gall gweithgareddau fel hyn fod yn llesol hefyd ar gyfer morâl a llesiant gweithwyr.
Mae gan wefan Wythnos Gofalwyr adnoddau y gallwch eu lawrlwytho (Saesneg yn unig).
Rhannu gwybodaeth ac adnoddau
Defnyddiwch sianeli cyfathrebu mewnol i rannu cyngor, gwybodaeth ac adnoddau dibynadwy a all gefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Mae adnoddau defnyddiol yn cynnwys hwb llesiant Gofalwyr Cymru a gwefan Wythnos Gofalwyr (Saesneg yn unig).
Sefydlu rhwydwaith gofalwyr
Mae Wythnos Gofalwyr yn gyfle i sefydlu neu gefnogi “Rhwydwaith Gofalwyr” neu “Hyrwyddwyr Gofalwyr,” y gwyddwn eu bod yn helpu gweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Os oes gennych chi arweinydd iechyd a llesiant, gofynnwch iddo siarad am ofalu ac anogwch weithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu i gael mynediad at y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.
Cefnogi gofalwyr drwy gydol y flwyddyn
Gall cefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu drwy gydol y flwyddyn helpu i greu gweithle lle mae eich gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso i ofalu am eu hiechyd.
Dyma rai pethau y gallwch chi eu gwneud drwy gydol y flwyddyn:
Annog cael sgyrsiau agored
Creu gweithle lle mae siarad am ofalu am bobl o bob oed yn cael ei annog a’i gefnogi.
Hyrwyddwch ffyrdd i weithwyr siarad am ofalu, fel ymuno â Rhwydwaith Gofalwyr, os oes gennych chi un.
Rhannu gwybodaeth ac adnoddau
Defnyddiwch sianeli cyfathrebu mewnol i rannu cyngor, gwybodaeth ac adnoddau dibynadwy a all gefnogi gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Mae adnoddau defnyddiol yn cynnwys hwb llesiant Gofalwyr Cymru a gwefan Wythnos Gofalwyr (Saesneg yn unig).
Cynnig opsiynau gweithio hyblyg
Gall cynnig opsiynau gweithio hyblyg helpu gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu i drefnu’r gwaith o amgylch eu cyfrifoldebau eraill.
Gall gweithio hyblyg gynnwys gweithio o bell, oriau cywasgedig neu oriau rhan-amser.
Dysgwch fwy am weithio hyblyg.
Rhagor o wybodaeth
I ddarganfod sut y gall eich gweithle gymryd rhan yn Wythnos Gofalwyr a chael adnoddau y gallwch eu defnyddio, ymwelwch â gwefan Wythnos Gofalwyr (Saesneg yn unig).
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd iechyd a llesiant drwy gydol y flwyddyn, cofrestrwch i gael ein cylchlythyr.
- Ymgyrch