Bwlio ac aflonyddu yn y gwaith
Dysgwch sut i adnabod, atal ac ymateb i fwlio ac aflonyddu, a meithrin diwylliant lle caiff pawb eu trin ag urddas a pharch yn y gweithle.
Cydnabod bwlio ac aflonyddu yn y gwaith
Nid yw bwlio ac aflonyddu bob amser yn amlwg. Gallant fod yn gynnil, gael eu normaleiddio dros amser neu gael eu diystyru fel ‘cellwair’.
Enghreifftiau o fwlio ac aflonyddu
Gall enghreifftiau gynnwys:
- Codi ofn, bygythiadau, neu ymddygiad ymosodol
- Sarhau, gadael allan neu feirniadaeth annheg
- Lledaenu sibrydion
- Llwythi gwaith afresymol neu rwystro cyfleoedd yn fwriadol
- Sylwadau sarhaus, gwahaniaethol neu rywiol
- Negeseuon, e-byst neu gyfathrebiadau ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n aflonyddgar
- Dial yn erbyn rhywun sy’n codi pryder
- Cam-drin, aflonyddu neu fygwth gan gwsmeriaid, cleientiaid neu drydydd partïon eraill
Gall un digwyddiad fod yn ddigon difrifol i olygu bod angen gweithredu. Mewn achosion eraill, gall bwlio neu aflonyddu ddatblygu trwy ymddygiadau ailadroddus sy’n ymddangos yn ddibwys pan gânt eu hystyried yn unigol.
Arwyddion y gallai cyflogwyr sylwi arnynt
Nid yw niferoedd isel o gwynion o reidrwydd yn golygu bod gwaith yn rhydd o fwlio ac aflonyddu. Gall gweithwyr fod yn amharod i adrodd am bryderon oherwydd eu bod yn ofni dial, nad ydynt yn ymddiried yn y broses neu oherwydd eu bod yn ansicr ynghylch ble i geisio cymorth.
Mae arwyddion rhybuddio posibl yn cynnwys:
- Gweithwyr sy’n osgoi rhai pobl, lleoliadau neu weithgareddau
- Ymddygiad gwael sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘dim ond cellwair’
- Pryderon sy’n cael eu codi’n anffurfiol neu’n ddienw
- Cwynion ddim yn cael eu cefnogi neu’n cael eu gwrthod
- Gweithwyr sy’n codi pryderon yn cael eu trin yn wahanol
Beth allai data gwaith ei ddangos
Gall cyflogwyr sylwi ar y canlynol:
- Pryderon niferus am yr un unigolyn neu dîm
- Cyfraddau absenoldeb uwch mewn ardal benodol
- Cynnydd mewn trosiant staff neu geisiadau i drosglwyddo i adran arall
- Profiadau gwaith gwahanol ar draws grwpiau gweithwyr
- Canlyniadau arolygon staff yn dangos ymddiriedaeth isel mewn prosesau adrodd
Nid yw’r dangosyddion hyn yn profi bod bwlio na aflonyddu yn digwydd, ond gallant adnabod meysydd sydd angen adolygiad pellach.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 29th Hydref 2026