Skip to content

Iechyd a llesiant menywod yn y gweithle

Dysgwch pam mae iechyd menywod yn bwysig yn y gweithle a darganfyddwch ffyrdd o gefnogi lles, cynhwysiant, a chyfartaledd yn y gwaith.

Neidio'r tabl cynnwys

Pwysigrwydd cefnogi iechyd menywod yn y gwaith

Mae menywod yn rhan sylweddol o’r gweithlu yng Nghymru. Gall problemau iechyd mewn cyfnodau gwahanol o fywyd effeithio ar bresenoldeb, llesiant a pherfformiad yn y gwaith.

Gall cyflogwyr sy’n darparu cymorth helpu gweithwyr i aros yn iach, aros yn y gwaith a pherfformio ar eu gorau.

Manteision i weithwyr

Gall cefnogi iechyd menywod yn y gwaith helpu i:

  • Gwella llesiant ac ansawdd bywyd
  • Annog pobl i geisio cymorth yn gynnar a gofalu am eu hiechyd
  • Cynyddu hyder i drafod pryderon iechyd ac anghenion cymorth
  • Hyrwyddo cynhwysiant, cydraddoldeb a diwylliant cefnogol yn y gweithle
  • Cefnogi datblygiad a dilyniant gyrfa

Manteision i gyflogwyr

Gall cefnogi iechyd menywod yn y gwaith helpu i:

  • Cynyddu ymgysylltiad, cymhelliant a chynhyrchiant gweithwyr
  • Cefnogi recriwtio, cadw a datblygu talent
  • Lleihau absenoldeb salwch a phresenoliaeth
  • Cefnogi perfformiad busnes drwy weithlu iach
  • Cyflawni cyfrifoldebau cyfreithiol dros gydraddoldeb, llesiant, ac iechyd a diogelwch
  • Datblygu diwylliant gweithle cadarnhaol ac enw da i gyflogwyr
Gwybodaeth:

I’w nodi:

Nid yw’r dudalen bwnc hon wedi’i bwriadu i fod yn ganllaw cyflawn i iechyd menywod. Mae’n tynnu sylw at feysydd allweddol lle gall cyflogwyr gefnogi gweithwyr a chreu gweithleoedd iachach.

Gall rhywfaint o’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y pwnc fod yn berthnasol i weithwyr trawsryweddol ac anneuaidd hefyd.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24th Tachwedd 2026