Iechyd a llesiant menywod yn y gweithle
Dysgwch pam mae iechyd menywod yn bwysig yn y gweithle a darganfyddwch ffyrdd o gefnogi lles, cynhwysiant, a chyfartaledd yn y gwaith.
Diwylliant gweithle, diogelwch a pharch
Mae diwylliant gweithle cadarnhaol yn rhan bwysig o gefnogi iechyd, llesiant a chyfranogiad menywod yn y gwaith.
Gall profiadau fel bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu, gwrthdaro a cham-drin gael effeithiau sylweddol ar iechyd corfforol, llesiant meddyliol, hyder, ymgysylltiad a boddhad mewn swydd. Gall cyflogwyr helpu i greu gweithleoedd diogel, iach a chynhwysol drwy sicrhau bod diwylliant o urddas, parch a diogelwch seicolegol, lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a’u cefnogi.
Bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu
Gall gweithwyr brofi bwlio, aflonyddu neu wahaniaethu yn y gweithle sy’n gysylltiedig â rhyw, beichiogrwydd, mamolaeth, y menopos, cyfrifoldebau gofalu, anabledd, oedran, ethnigrwydd neu nodweddion gwarchodedig eraill. Gall y profiadau hyn gyfrannu at straen, pryder, iechyd meddwl gwael a llai o ymgysylltiad yn y gweithle.
Dylai cyflogwyr sicrhau bod polisïau, gweithdrefnau adrodd a diwylliannau gweithle yn hyrwyddo parch, cynhwysiant a chydraddoldeb, a bod pryderon yn cael eu datrys yn brydlon, yn gyson ac yn deg. Gall hyfforddiant i reolwyr a gweithwyr helpu i godi ymwybyddiaeth, annog ymddygiadau cadarnhaol a chefnogi datrys problemau’n gynnar.
Dysgwch ragor am fwlio ac aflonyddu yn y gweithle.
Gwrthdaro yn y gweithle a diogelwch seicolegol
Gall gwrthdaro yn y gwaith effeithio ar lesiant, perthnasoedd gwaith a pherfformiad tîm.
Gall creu gweithleoedd sy’n ddiogel yn seicolegol helpu gweithwyr i deimlo’n gyfforddus yn siarad, codi pryderon a cheisio cymorth, gan helpu i atal problemau rhag gwaethygu.
Dylai cyflogwyr annog cyfathrebu agored, arferion rheoli cefnogol a chyfleoedd ar gyfer deialog adeiladol pan fydd heriau’n codi.
Dysgwch ragor am ddiogelwch seicolegol yn y gweithle a rheoli gwrthdaro.
Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV)
Gall trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio ar iechyd corfforol, llesiant meddyliol, presenoldeb, canolbwyntio a pherfformiad yn y gwaith. Er bod cam-drin yn aml yn digwydd y tu allan i’r gweithle, gall ei effeithiau dreiddio i’r gweithle.
Gall cyflogwyr chwarae rhan bwysig wrth adnabod arwyddion posibl, ymateb yn sensitif a sicrhau y gall gweithwyr gael mynediad at gymorth priodol. Gall hyn gynnwys hyblygrwydd, addasiadau i drefniadau gwaith, mynediad at wasanaethau llesiant a chyfeirio at sefydliadau arbenigol.
Dylai rheolwyr ddeall sut i ymateb yn briodol, cynnal cyfrinachedd a chefnogi gweithwyr i gael mynediad at gymorth yn ddiogel.
Ewch i Busnes Cymru am ragor o wybodaeth am gefnogi gweithwyr sydd mewn perygl o gam-drin domestig.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am gymorth a chyngor ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24th Tachwedd 2026